Newyddion S4C

Heddlu’n gwrthdaro â phrotestwyr Covid-19 yn Rotterdam

The Guardian 20/11/2021
S4C

Mae Heddlu’r Iseldiroedd wedi saethu ac anafu protestwyr yn dilyn terfysgoedd dros fesurau newydd Covid-19.

Taflodd protestwyr gerrig a thân gwyllt at yr heddlu yng nghanol dinas Rotterdam ddydd Gwener.

Mewn ymateb i’r terfysg saethodd yr heddlu ergydion fel rhybudd ac ergydion uniongyrchol er mwyn ceisio rheoli sefyllfa oedd yn ‘peryglu bywyd’.

Yn ôl The Guardian, mae saith o bobl wedi eu hanafu ac mae dwsinau wedi eu harestio.

Cyhoeddwyd cyfnod clo o dair wythnos yn yr Iseldiroedd wythnos ddiwethaf oherwydd cynnydd mewn achosion Covid-19.

Mae’r protestwyr yn anhapus gyda chynlluniau’r llywodraeth i gyflwyno pás Covid-19 i'r rhai sydd wedi'u brechu’n llawn rhag coronafeirws neu sydd wedi gwella o'r afiechyd.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: @Twit_Marcel/Twitter 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.