Gosod tai sy’n cael eu hadeiladu mewn ffatrïoedd yng Nghaerdydd

Gosod tai sy’n cael eu hadeiladu mewn ffatrïoedd yng Nghaerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi dechrau’r broses o osod cartrefi newydd yn y ddinas sydd wedi eu hadeiladu mewn ffatrïoedd.
Bwriad y cynllun yw ceisio mynd i’r afael ag amseroedd aros i gael tai fforddiadwy.
Nod y cyngor yw adeiladu 2,500 o dai cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r tai newydd yn dai modwlar, sydd yn cael eu creu mewn darnau, mewn ffatrïoedd fel arfer, a’u gosod ar leoliad o fewn ychydig ddyddiau.
Cafodd naw ohonynt eu gosod ym Mhlasnewydd, Caerdydd yn ddiweddar – gyda dwy ystafell ymhob un.
Ond er eu natur anghonfensiynol, mae’r tai "yma i aros" yn ôl arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas.
'Ein hymrwymiad i daclo'r broblem'
“Mae’n rhan o raglen Cyngor Caerdydd i adeiladu tai cyngor ledled y ddinas.
“Rhaglen sydd wedi cyflawni rhyw gannoedd o dai cyngor yn cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd yn barod.
“Dros y pum mlynedd nesa, mae ganddon ni gynllun i ddod â’r ffigwr hynny i 2,500 o dai cyngor yn y ddinas.
“Dyna yw ein hymrwymiad ni i fynd ati i geisio taclo’r broblem," meddai.
Mae’r Cyngor wedi dweud eu bod yn bwriadu adeiladu rhagor o dai modwlar, gyda ffactorau amgylcheddol yn dylanwadu’r penderfyniad.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Bethan Proctor o Gartrefi Cymunedol Cymru mai tai modwlar “yw’r dyfodol”.
“Maen nhw bendant yn rhan o’r datrysiad,” meddai.
“Mae’r cartrefi hyn yn ddatrysiad cynaliadwy ar gyfer cynlluniau preswyl gan eu bod yn gostwng ôl troed carbon adeiladu cartrefi – a hefyd mae’r cartrefi eu hunain yn garbon isel.”