Newyddion S4C

Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahardd hela trywydd ar eu tir

Nation.Cymru 18/11/2021
Helfa

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwahardd hela trywydd ar draws unrhyw dir sydd dan ofal y sefydliad. 

Er bod hela llwynogod eisoes yn anghyfreithlon, mae hela trywydd yn galluogi helfeydd i esgus bod ar helfa trwy lusgo a dilyn arogl er mwyn i gŵn hela ei ddilyn. 

Ond, yn ôl Nation.Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru nawr wedi gwahardd hela trywydd ar ôl i gyfarwyddwyr Cymdeithas Meistri Cŵn Llwynogod dderbyn euogfarn am annog hela llwynogod yn anghyfreithlon. 

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi "colli hyder" yn Gymdeithas ac wedi penderfynu peidio adnewyddu eu cytundeb gyda nhw.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Ray Bird

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.