Dyn yn cyfaddef iddo ladd dyn ifanc yn Aberdâr

Mae dyn wedi pledio'n euog i ladd dyn ifanc yn Aberdâr fis Hydref.
Cafodd Keyron Curtis, 21, ei ymosod arno y tu allan i dafarn y Colliers Arms ym Mhenywaun ychydig wedi 01:00 ar 17 Hydref.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau.
Bu Daniel Howells-Thomas, 24, o flaen Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau lle blediodd yn euog i ddynladdiad, yn ôl Wales Online.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu ar 10 Rhagfyr.
Darllenwch y stori'n llawn yma.