Profiad o roi genedigaeth yn ‘ofnadwy’ oherwydd cyfyngiadau ymwelwyr
Profiad o roi genedigaeth yn ‘ofnadwy’ oherwydd cyfyngiadau ymwelwyr
Mae dynes wedi disgrifio ei phrofiad o roi genedigaeth yn "ofnadwy" oherwydd cyfyngiadau ymwelwyr i unedau mamolaeth.
Rhoddodd Leah Lewis-McLernon enedigaeth i'w merch Cali ym mis Chwefror y llynedd.
Dim ond am 40 munud tra roedd Mrs Lewis-McLernon yn rhoi genedigaeth roedd ei gŵr Michael yn cael bod yn bresennol.
Mae Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y canllawiau'n cael eu hadolygu'n gyson.
'Ble odd y gefnogaeth?'
“Wel sai'n teimlo bod e'n deg bod hawl 'da chi fynd i dafarn ond bod ddim 'da chi cael y gefnogaeth yn yr ysbyty, pan chi newydd gael babi bach. Dyw e ddim yn deg o gwbl.”
“Odd e'n ofnadwy. Wel ges i Cali ac o fewn biti 40 munud o'n i'n cael yn danfon nôl i'r ward ac wedyn 'ny odd Michael yn gorfod mynd.
“Wel o'n i dal ddim yn gwybod ble o'n i, beth odd yn digwydd math o beth, a odd e'n mynd a es i nôl ac o'n i wrth yn hunan. Odd y staff yn fishi, ac o'n i moyn mynd i gael cawod ac o'n i'n poeni amdani hi. Odd e jyst yn ofnadwy.
“O'n i jyst yn teimlo, ble odd y gefnogaeth i ni fel mamau? Bydde ofn arno fi fynd trwyddo fe 'to.”
Yn dilyn ei phrofiad mae Mrs Lewis-McLernon yn galw am newid i’r rheolau.
“Mae angen newid bod hawl gyda dy bartner, a fi'n meddwl hefyd dyle fod hawl 'da dy bartner fod gyda ti o'r dechrau hyd at y siwrne i gyd o ddod mas o'r ysbyty.
“Fi'n deall bod ymweliadau, bod amseroedd penodol, ond dyw dwy awr ddim yn ddigon. Dyw e ddim yn deg.”
Nid Leah Lewis-McLernon yw’r unig un sy’n teimlo bod y cyfyngiadau yn annheg, mae rhaglen Newyddion S4C wedi clywed gan sawl mam sydd wedi cael profiadau anodd iawn cyn, ac ar ôl rhoi genedigaeth, yn ystod y pandemig.
Mae nifer o gyrff sy'n ymgyrchu dros hawliau merched wedi ymuno i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn galw am newid i’r cyfyngiadau ar ymwelwyr i Unedau Mamolaeth.
Ar hyn o bryd mae rheolau ar gyfyngiadau ymwelwyr yn wahanol yn dibynnu ar y bwrdd iechyd.
Ym mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, mae hawl gan un partner ymweld rhwng 08:00 y bore ac 20:00 y nos.
Ond does yna ddim un Bwrdd arall yng Nghymru sy’n caniatáu ymweliadau i wardiau mamolaeth am yn fwy na dwy awr y dydd.
Ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, mae’r rheolau yn fwy llym, does dim ymweliadau o gwbl.
‘Cymryd camau cyfreithiol’
Mae’r rheolau Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gwthio elusen Birthrights i gymryd camau cyfreithiol.
Yn ôl Martha Booker o Birthrights, mae’r elusen wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd.
“Fe wnaethant anfon eu hasesiad risg atom. Nid ydym yn credu bod y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn gymesur â'r asesiad risg.
“Felly rydyn ni wedi anfon llythyr arall atynt cyn gweithredu, rydyn ni'n barod iawn i gael trafodaeth gyda nhw. Ond yn y pen draw, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol os ydym yn teimlo nad ydyn nhw'n ystyried yr achos ac yn edrych yn iawn a yw'r cyfyngiadau hyn yn deg neu beidio.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mai diogelwch merched a babanod yw’r brif flaenoriaeth.
“Rydym yn gwerthfawrogi’n llawn y gefnogaeth amhrisiadwy sy’n cael ei roi gan bartneriaid yn ystod geni plentyn. Er hynny, oherwydd safle’r ardaloedd lle mae merched yn cael y gofal, mae’r cyfyngiadau yn angenrheidiol meddai tra bod cyfraddau’n uchel o fewn y gymuned.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n gweithio i sicrhau bod modd cael cydbwysedd rhwng amddiffyn yr unigolion bregus sy’n derbyn triniaeth yn ein hysbytai a hefyd caniatáu ymwelwyr.
Bydd y canllawiau yn cael eu hadolygu’n gyson gan Lywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd.