O leiaf 68 o bobl wedi marw mewn carchar yn Ecuador

Mae oleiaf 68 o bobl wedi marw mewn carchar yn ninas Guayaquil yn Ecuador yn dilyn gwrthdaro rhwng gangiau.
Mae lle i gredu bod degau yn rhagor wedi eu hanafu hefyd.
Daw hyn ychydig dros fis ar ôl i gannoedd yn rhagor o bobl farw mewn carchar arall yn y wlad ym mis Medi.
Yn ôl The Guardian, cafodd lluniau a fideos eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol o garcharorion yn cael eu taro a'u llosgi ac roedd modd clywed swn ffrwydradau a gynau yn y cefndir.
Dywedodd llywodraethwr o ranbarth Guyas bod y gwrthdaro wedi dechrau ar ôl i arweinydd un o gangiau'r ddinas gael ei ryddhau o'r carchar.
Darllenwch y stori'n llawn yma.