Gwasanaeth newyddion The National yn dod i ben mewn print
Mae gwasanaeth newyddion The National wedi dod i ben mewn print “am y tro” chwe mis ar ôl iddo gael ei lansio.
Mae’r gwasanaeth wedi rhannu newyddion ar-lein ers mis Mawrth ac mae rhifyn o’r papur wedi bod ar gael mewn print bob dydd Sadwrn, ond bydd hynny nawr yn stopio.
Yn gynharach eleni, dywedodd y golygydd Gavin Thompson y byddai'r gwasanaeth yn symud i rifynnau print yn wythnosol gan fod pobl wedi "dangos bod galw am y math o newyddiaduraeth ry'n ni [The National] yn ei chynhyrchu ar ffurf reolaidd print."
Ond, mewn erthygl yn y papur fore Sadwrn 13 Tachwedd, dywedodd sylfaenydd y papur newydd, Huw Marshall, y bydd “saib ar y cynnyrch print am y tro.”
Gan ein bod wedi lansio Ap ffôn clyfar a thabled bydd ein papur newydd yn dod i ben am y tro. Byddwn yn canolbwyntio ar ein gwasanaeth digidol gan gynnwys ehangu ein darpariaeth yn y Gymraeg ar y we. Byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau print ar gyfer 2022 yn y flwyddyn newydd.
— National Cymraeg 🏴 (@NationalCymraeg) November 13, 2021
👍🏻 pic.twitter.com/ElnlDeQHzy
Dywedodd Huw Marshall: “Dros y chwe mis diwethaf rydym wedi cyhoeddi papur wythnosol bob dydd Sadwrn er mwyn amlygu ein brand yn weledol a chynnig blas o’r cynnwys sydd ar gael ar-lein ym mhob cwr o Gymru.
“Bydd saib ar ein cynnyrch print am y tro, ac y byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer cynnyrch print y National yn y flwyddyn newydd.”
Ychwanegodd sylfaenydd y papur y bydd ffocws The National yn troi at y ffurf digidol gydag ap newydd yn cael ei lansio yn ystod yr wythnos nesaf.
Bydd yr erthyglau sydd yn ymddangos yn y papur yn cael eu harddangos ar wefan ac ap newydd y gwasanaeth.
Dywedodd Huw Marshall y bydd mwy o straeon cyfrwng Cymraeg yn cael eu rhannu, a straeon am y Gymraeg trwy gyfrwng yr iaith Saesneg.
'Hynod galonogol'
Er bod y gwasanaeth yn atal ei rifynnau print, dywedodd Huw Marshall bod y gefnogaeth wedi bod yn “galonogol.”
Dywedodd: “Mae’r adborth rydym wedi ei derbyn ers lansio’r teitl ar ddydd Gwyl Dewi wedi bod yn hynod galonogol.”
Bydd y gwasanaeth yn rhannu ei gynlluniau ar gyfer y flwyddyn newydd yn fuan.