Saith newid i dîm merched Cymru ar gyfer gêm De Affrica

NS4C 11/11/2021

Mae Cymru wedi gwneud saith newid i'r tîm gurodd Japan wrth iddynt baratoi i wynebu De Affrica ddydd Sadwrn.

Llwyddodd Cymru i ennill am y tro cyntaf ers 2019 wrth iddynt drechu'r Blodau Ceirios 23-5 - ond mae prif hyfforddwr Ioan Cunningham wedi rhoi cyfle i sawl wyneb newydd y tro hyn. 

A hithau ar y fainc yn ystod gêm Japan, bydd y cyn-gapten Carys Phillips yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei gwlad ers dwy flynedd fel bachwr. 

Mae Gwenllian Pyrs, Cerys Halde a Alisha Butchers hefyd yn dod mewn i'r blaenwyr tra bod Georgina Evans yn symud i'r ail reng.

Yn safle'r olwyr bydd Ffion Lewis a Niamh Terry yn chwarae am y tro cyntaf am ddwy flynedd tra bydd Caitlin Lewis yn dechrau ar yr asgell. 

Un newid fyddai'n ergyd i Gymru yw colli Jasmine Joyce sydd ar ddyletswydd gyda thîm saith pob ochr Prydain Fawr. 

Fe wnaeth y cefnwr serenu yn gêm yn erbyn Japan, ac yn hanfodol i'r fuddugoliaeth gan sgorio dau gais. 

Y tîm llawn 

Niamh Terry; Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Caitlin Lewis; Elinor Snowsill, Ffion Lewis; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Cerys Hale, Natalia John, Georgia Evans, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap (Capt).

Eilyddion: Kat Evans, Caryl Thomas, Donna Rose, Gwen Crabb, Alex Callender, Keira Bevan, Robyn Wilkins, Megan Webb.

Cymru v De Affrica, Parc yr Arfau - y gig cyntaf am 12:15.