Newyddion S4C

Enw'r dyn fu'n sownd mewn ogof am dros 48 awr wedi ei ryddhau

Sky News 09/11/2021
S4C

Mae enw'r dyn fu'n sownd mewn ogof am 48 awr ym Mannau Brycheiniog wedi ei ryddhau.

Dywed Sky News mai enw'r dyn yw George Linnane a'i fod yn ogofwr profiadol sydd yn dod o Loegr.

Cafodd ei achub o Ogof Ffynnon Ddu nos Lun ar ôl ymdrech anferth gan dimau achub i'w ryddhau o grombil y ddaear.

Roedd hyd at 240 o unigolion yn rhan o'r ymdrech achub, oedd yn cynnwys wyth o griwiau achub ogofau o bob rhan o Brydain.

Yn ôl Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru, fe gwympodd i mewn i Ogof Ffynnon Ddu yn ardal Ystradgynlais ddydd Sadwrn.

Roedd wedi dioddef nifer o anafiadau cyn cael ei achub ond y gred yw ei fod bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.