Newyddion S4C

Galw ar Lywodraeth Cymru i 'weithredu ar frys' yn dilyn achosion o sbeicio

10/11/2021
Sbeicio

Mae galw am weithredu llymach i fynd i'r afael ag achosion diweddar o sbeicio.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i "weithredu ar frys".

Dywed y llywodraeth eu bod yn cryfhau eu strategaethau i ganolbwyntio ar gam-drin menywod.

Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, mae disgwyl i'r Ceidwadwyr alw ar y llywodraeth i weithio gyda rhanddeiliaid i gyflwyno cyfres o fesurau i daclo'r mater.

Mae'r camau yn cynnwys darparu gorchuddion diodydd am ddim, gwella mesurau diogelwch, hyfforddi staff ar sut i ymateb ac ehangu camerâu cylch cyfyng mewn lleoliadau.

'Achosion ofnadwy a brawychus'

Dywedodd Tom Giffard, Gweinidog Diwylliant Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig fod "achosion ofnadwy a brawychus o sbeicio" wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar.

Ychwanegodd Mr Giffard: "Mae'n angenrheidiol eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] nid yn unig yn defnyddio pwerau datganoledig i rwystro'r cynnydd mewn sbeicio, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd gamu i'r adwy a chydweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau diogelwch y sawl sy'n mynd allan gyda'r nos.

"Nid ydym wedi cael y ddadl eto hyd yn oed ac mae gweinidogion Llafur eisoes yn ceisio osgoi gweithredu'n gadarn drwy addasu ein cynnig i wanhau'r mesurau penodol dylen nhw eu cymryd."

'Cryfhau ein strategaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r weithred o sbeicio yn drosedd ofnadwy, mae'n gwaredu ar urddas, hawliau a rhyddid person.  Dyna pam rydym yn cryfhau ein Strategaeth Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) i gynnwys ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod ar strydoedd a'r gweithle yn ogystal â'r cartref.

"Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o'r materion o anghydraddoldeb a diogelwch sy'n wynebu menywod a merched a gyda heddluoedd Cymru, comisiynwyr Heddlu a Throsedd, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron fel bod gan bobl yr hyder i adrodd am a dal camdrinwyr a chyflawnwyr trais a'r troseddau hyn i gyfrif.

"Lle mae'n ddiogel i wneud, rydym am i'n cymunedau i herio ymddygiadau amhriodol a chynnig cefnogaeth i'r sawl sydd wedi eu heffeithio, mae hyn yn cynnwys dynion i deimlo'n ddigon cryf i drafod gyda dynion eraill a bechgyn yn herio ymddygiad treisgar a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, cyd-weithwyr a chymunedau i annog diwylliant o gyfiawnder a pharch".

Ychydig wythnosau yn ôl bu boicot mewn clybiau nos ar draws y wlad er mwyn codi ymwybyddiaeth yn dilyn achosion o sbeicio.

Fis diwethaf fe gadarnhaodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn rhai adroddiadau o sbeicio yn ardal y llu a'u bod yn ymchwilio i'r adroddiadau.

Fe fydd y ddadl yn cael ei chynnal yn y Senedd yn ddiweddarach dydd Mercher.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.