Y Senedd i bleidleisio ar ehangu'r defnydd o basys Covid-19
Fe fydd Aelodau o'r Senedd yn pleidleisio ar y posibilrwydd o ehangu'r defnydd o basys Covid yng Nghymru ddydd Mawrth.
Mae'r pasys wedi bod yn ofynnol mewn digwyddiadau torfol mawr a chlybiau nos ers eu cyflwyno ar 11 Hydref.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu'r defnydd o'r pasys.
Fe basiodd y bleidlais ar y defnydd gwreiddiol o'r pasys o drwch blewyn, gyda 28 aelod o blaid a 27 yn erbyn.
Ond, ychydig dros wythnos yn ôl fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwriad i ehangu'r cynllun ymhellach i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
Mae ehangu'r cynllun ymhellach i leoliadau lletygarwch hefyd dan ystyriaeth gan y llywodraeth os oedd y nifer o achosion yn parhau i godi erbyn yr adolygiad nesaf o reoliadau coronafeirws Cymru.
'Nifer o faterion moesegol'
Bydd yn rhaid i'r llywodraeth ddarbwyllo rhai o bryderon y gwrthbleidiau os ydyn nhw am sicrhau buddugoliaeth gyfforddus ar lawr y siambr.
Fe alwodd y Ceidwadwyr Cymreig ddydd Llun ar Lywodraeth Cymru i gael gwared â phasys Covid yn gyfan gwbl.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Blaid, Russell George: “Ein dyletswydd gyntaf fel Aelodau o'r Senedd - fel deddfwriaethwyr - yw creu cyfraith dda a gwrthod cyfraith ddrwg.
"Mae nifer o faterion moesegol a chydraddoldeb gyda phasbortau brechlyn, ac ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi eu hestyniad."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gwrthwynebu'r syniad o basys Covid.
Yn dilyn y bleidlais wreiddiol ar eu defnydd yn y Senedd, dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds: "Nid yw'r dystiolaeth yn dangos y bydd pasbortau COVID yn ein gwneud yn fwy diogel neu gynyddu cyfraddau brechu.
"Beth sydd wedi ei ddangos yw y byddant yn gwneud rhai pobl yn llai tebygol i gael eu brechu a gwahaniaethu yn erbyn rhai o fewn cymdeithas."
'Mesurau mwy effeithiol'
Mae Plaid Cymru yn dweud fod angen mwy o fesurau ac - er nad yw'r blaid yn gwrthwynebu pasys mewn egwyddor - dydyn nhw ddim yn ddigon ar eu pen eu hunain.
Mae llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, eisoes wedi dweud: “Er ein bod wedi gobeithio am drefn pasbort gryfach y tro diwethaf, rydym yn gwybod na allwn fynd i’r afael a’r achosion uchel drwy basiau neu basbortau yn unig.
“Rhaid gweld mesurau mwy effeithiol i gyfyngu ar drosglwyddo cymunedol, lliniaru lledaeniad brawychus y feirws yn ein hysgolion, a lleihau nifer o bobl sy’n mynd i’r ysbyty gyda’r feirws."
Mae disgwyl canlyniad y bleidlais ar ehangu'r defnydd o basys Covid yn ddiweddarach dydd Mawrth.