Newyddion S4C

Dau wedi eu trywanu yng nghanol Caerdydd brynhawn Gwener

06/11/2021
heol eglwys fair

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddau ddyn gael eu trywanu yng nghanol dinas Caerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Eglwys Fair ger Marchnad Caerdydd ychydig wedi 16:30 brynhawn dydd Gwener.

Mae’r ddau ddyn yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Nid yw'n debyg fod eu hanafiadau yn rhai all beryglu bywyd.

Mae dyn 19 oed o ardal y Waun Ddyfal (Cathays) wedi ei arestio ar amheuaeth o glwyfo’n fwriadol ac yn parhau yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.

Roedd cyfyngiadau yn parhau ar Heol Eglwys Fair dros nos, a bore dydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod yr arestiadau wedi eu gwneud yn fuan ar ôl i’r digwyddiad gael ei adrodd.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Jason Rees: “Gallwn ddeall fod digwyddiadau o’r fath yn gallu achosi pryder yn ein cymunedau. Mae mynd i’r afael â thrais cyllyll yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd gan wybodaeth am y digwyddiad.”

Mae modd cysylltu gyda’r heddlu gan ddefnyddio’r cyfeirnod *38863.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.