Wayne Pivac yn cyhoeddi carfan rygbi Cymru i herio De Affrica

NS4C 04/11/2021

Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi manylion carfan rygbi Cymru fydd yn herio De Affrica nos Sadwrn. 

Dyma fydd ail gêm Cymru yng Nghyfres yr Hydref, gyda'r crysau cochion yn dioddef crasfa o 17-40 yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf.

Mae dewis Pivac wedi ei gyfyngu unwaith eto, ar ôl i'r capten Alun Wyn Jones a Ross Moriaty dioddef o anafiadau yn y gêm nos Sadwrn. 

Mae Rhys Carre wedi camu fewn i safle Wyn Jones a Nick Tompkins yn dod i le'r canolwr Johnny Williams. 

Mae Louis Rees-Zammit nôl yn yr asgell, gyda Dan Biggar yn dychwelyd i'r 10fed safle.

Y tîm: Johnny McNicholl; Louis Rees-Zammit, Jonathan Davies (c), Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Ellis Jenkins, Taine Basham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Bradley Roberts, Wyn Jones, WillGriff John, Ben Carter, Seb Davies, Gareth Davies, Gareth Anscombe, Liam Williams.