
Tro pedol dros gynllun ffordd osgoi Llanbedr 'ddim yn pigo' ar y Gymru wledig
Dydy penderfyniad i roi’r gorau i gynllun ffordd osgoi yng Ngwynedd ddim yn “pigo ar” y Gymru wledig, yn ôl un o weinidogion y llywodraeth.
Roedd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn ymateb i gwestiwn gan un o aelodau Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, yn Siambr y Senedd ddydd Mercher.
Daeth cadarnhad ddydd Llun na fyddai’r cynllun i adeiladu ffordd osgoi Llanbedr yn parhau.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi oedi cynlluniau i adeiladu ffyrdd ar draws y wlad tra bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i’w gwerth amgylcheddol.
Awgrymodd yr adolygiad annibynnol o gynlluniau’r ffordd osgoi yn Llanbedr na ddylai’r gwaith ar y cynllun barhau ond y dylid ystyried “pecyn amgen o fesurau” i leihau effeithiau traffig ar Lanbedr a phentrefi cyfagos.
Mae cryn ymateb wedi bod yn lleol i’r cyhoeddiad na fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, gyda Mr ap Gwynfor, sy’n cynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionnydd, yn dweud ar y pryd ei fod yn “gynddeiriog”.
Yn y Siambr ddydd Mercher roedd yr AoS dros Ddwyfor Meirionnydd yn dwyn cymhariaeth rhwng cynllun Llanbedr a'r gwaith i ddeuoli’r A465 rhwng Dowlais Top a Hirwaun sydd yn parhau.

'Deall y rhwystredigaeth'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog ei fod yn deall y “siom” gan fod cysylltiad lleol cryf yn aml gyda'r cynlluniau hyn.
Dywedodd Mr Waters: “Dwi’n deall rhwystredigaeth yr Aelod ond dwi ddim yn gallu ei gyfuno gyda’r hyn mae e hefyd yn dweud fod yn rhaid i ni wneud ar Sero-Net.
“Mae’n anghywir i awgrymu fel yr AoS fod Cymru wledig, neu Gwynedd yn benodol, yn cael ei bigo arno yma.
“Dyma’r agwedd y dylen ni fod yn ei chymryd ar draws Gymru oherwydd mae’r wyddoniaeth yn mynnu ein bod yn gwneud hynny.
“Mae’r argyfwng hinsawdd mae e a fi a Chyngor Gwynedd wedi ei arwyddo hefyd yn mynnu ein bod yn gwneud hynny”.
Fe ddywedodd Natasha Asghar, Gweinidog Cysgodol Trafnidiaeth a Thechnoleg y Ceidwadwyr Cymreig, fod traffig yn yr ardal yn “hunllef” a bod pobl yn y gymuned yn gweld y ffordd fynediad fel “ffordd allan”.
Wrth ymateb i hyn dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Os allwn ni gynnig opsiynau amgen realistig i’r car mae’n rhaid i ni fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae buddsoddi mwy o arian mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu buddsoddi llai yn y dull rydym ni wedi ei gymryd.”
Llun: © Next Perspectives