Newyddion S4C

Galw am fwy o gefnogaeth ar gyfer pobl awtistig yn y gweithle

Newyddion S4C 01/11/2021

Galw am fwy o gefnogaeth ar gyfer pobl awtistig yn y gweithle

Mae diffyg cefnogaeth ar gyfer pobl awtistig yn y gweithle, yn ôl menyw awtistig o Gaerdydd.

Dywedodd Alice Banfield, 25, wrth raglen Newyddion S4C fod y profiad yn un "trawmatig".

Dim ond 22% o oedolion awtistig sydd wedi eu cyflogi yn y DU, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dywedodd Alice: "O nhw ddim yn patient gyda fi, a oedden nhw disgwyl i fi wybod yn union beth o'n nhw moen heb gofyn fi os o'n i'n iawn i weithio ar ben fy hun neu os o'n i'n deall.

"Odd e'n eitha trawmatig i'r pwynt oedd rhaid i mi gymryd 'antidepressants' a chymryd sesiynau therapi i ddelio gyda hwnna.

"O fi'n teimlo fel odd neb yn gwrando i fi a hefyd odd anghenion fi yn 'high maintenance'.

"Ond dyle neb teimlo hwnna achos ti'n gwybod ni'n bobl ar ddiwedd y dydd - a ni'n haeddu parch."

Fis Medi daeth Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth Llywodraeth Cymru i rym.

"Rydym wedi ymrwymo i wella bywydau pobl awtistig a bod mynediad i gyfleoedd o gyflogaeth arwyddocaol yn rhan hollbwysig o hwn," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Ynghyd â hyn cyhoeddodd y llywodraeth gynllun sy'n codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o awtistiaeth.

Maen nhw hefyd wedi apwyntio pum Pencampwr Cyflogaeth ar gyfer Pobl Anabl i helpu i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy'n gweithio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.