Newyddion S4C

Gostyngiad serth yng nghyfradd Covid-19 yng Nghymru

01/11/2021
Stryd y Frenhines, Caerdydd

Mae’r gyfradd achosion Covid-19 i bob 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf wedi gostwng yn serth. 

Roedd 558.9 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru ar gyfartaledd yn yr wythnos hyd at 27 Hydref, yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae’n ostyngiad serth o’r 619.1 gafodd ei adrodd ddydd Sul ar gyfer yr wythnos hyd at 25 Hydref. 

Cafodd 4,983 o achosion eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y 48 awr ddiwethaf, sy’n dod â’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 442, 953. 

Yn Nhorfaen mae’r gyfradd ar ei huchaf gyda 792.9 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth dros gyfnod o wythnos, gyda Bro Morgannwg yn ail gyda 734.4 a Caerffili yn dilyn gyda 715.7. 

Caerdydd oedd yr ardal a wnaeth gofnodi’r nifer mwyaf o achosion coronafeirws yn y 24 awr ddiwethaf, gyda 567 achos wedi’u cadarnhau, 403 yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf â 332, Abertawe gyda 326 a Bro Morgannwg gyda 298. 

Cafodd y nifer isaf o achosion eu cofnodi yn Sir Ddinbych, gyda 125 achos yn cael eu cofnodi yn y 48 awr ddiwethaf, 121 ym Mlaenau Gwent, 116 yng Nghonwy, Ceredigion â 100, Merthyr Tudful gyda 86 ac Ynys Môn 80. 

Mae cynnydd yn nifer y cleifion sy’n derbyn triniaeth ar gyfer Covid-19 mewn ysbytai, er mae’r gyfradd yn is o’i gymharu â chyfnodau tebyg yn ystod y don gyntaf a’r ail don. 

Ar 29 Hydref, roedd 758 yn derbyn triniaeth am Covid-19 – gyda’r nifer uchaf yn ysbytai ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd yn trin 182 o gleifion.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dilyn gyda 141, Cwm Taf Morgannwg gyda 128, 116 yn Hywel Dda, 101 ym Mae Abertawe a 88 ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Daw’r ffigyrau diweddaraf wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau dros y penwythnos fod 2,445,438 wedi derbyn un dos o frechlyn Covid-19, a 2,224,276 wedi cael dau ddos. 

Mae 432,716 wedi cael trydydd dos, neu frechlyn atgyfnerthu. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.