
Digwyddiad Afon Cleddau: Teyrngedau i gyn-filwr fu farw
Mae teyrngedau wedi eu rhoi ar gyfryngau cymdeithasol i’r cyn-filwr Paul O’Dwyer, o Bort Talbot sydd wedi’i enwi fel un o’r tri padlfyrddiwr a fu farw mewn digwyddiad yn Sir Benfro.
Bu farw Mr O’Dwyer yn y fan ar lle wedi iddo fynd i drafferthion wrth badl-fyrddio ar Afon Cleddau fore ddydd Sadwrn.
Bu farw ynghyd â dwy fenyw arall yr oedd yn ceisio eu helpu, tra bod menyw arall mewn cyflwr difrifol ar hyn o bryd.
Mewn neges ar Facebook dywedodd ffrind i Mr O’Dwyer ei fod yn “ffrind gwych ac yn ymgyrchydd gwych dros elusennau. Nid oedd unrhyw beth na allai Paul ei wneud!”
Dywedodd Clwb Pêl-droed Aberavon Green Stars y bydd Mr O’Dwyer yn cael ei fethu gan lawer.
“Roedd popeth a wnaeth Paul er budd a gwelliant eraill, gwnaeth y byd yn le gwell mewn gwirionedd.”
Bu farw dwy ddynes arall yn y diwgyddiad ac mae dynes yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau i amgylchiadau'r digwyddiad.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu trwy wefan: https://orlo.uk/HaverfordwestAppeal_naaDd
Llun: Facebook