Newyddion S4C

Menyw bron â thaflu diemwnt gwerth £2m i'r bin sbwriel

The Independent 29/10/2021
Diemwnt

Bu bron i fenyw o Sir Northumberland â thaflu diemwnt gwerth £2m i ffwrdd wrth glirio'i chartref. 

Dywedodd y fenyw, sydd yn ei 70au ac am aros yn ddienw, ei bod yn credu mai darn o wisg ffansi oedd y garreg 34-carat ac fe gafodd "sioc enfawr" wrth ddarganfod gwerth y garreg. 

Yn ôl yr arwerthwr Mark Lane o gwmni Feastonby's, roedd y perchennog yn agos iawn at daflu'r gemwaith gwerthfawr "yn y bin" cyn sylweddoli ei chamgymeriad.

Mae'r diemwnt nawr yn cael ei gadw yn ardal gemwaith Hatton Garden yn Llundain.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.