Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law trwm i Gymru yn parhau

29/10/2021
Glaw

Mae'r rhybudd melyn am law trwm yn parhau ddydd Gwener.

Dyma'r ail ddiwrnod o rybudd wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law trwm nos Iau hyd at 15:00 ddydd Gwener. 

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am gawodydd trwm ar gyfer y de ddwyrain rhwng 00:00 a 15:00 ddydd Sul.

Nos Iau, fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod mwy na 20 o rybuddion llifogydd wedi eu cyhoeddi ar afonydd Cymru.

Erbyn bore Gwener, mae'r nifer o rybuddion llifogydd ar afonydd wedi cynyddu i fwy na 30.

Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd.

Mae'r rhybudd tywydd yn berthnasol i siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Torfaen, Wrecsam, Ynys Môn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.