Rhybudd melyn am law trwm fore Iau
Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer glaw trwm i rannau o Gymru am y deuddydd nesaf.
Bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 06:00 fore Iau ac yn parhau tan 15:00 ddydd Gwener.
Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd.
Dyma'r cyfres o ffryntiau fydd yn arwain at 48awr diflas i nifer.
— S4C Tywydd (@S4Ctywydd) October 27, 2021
Y ffryntiau'n symud nôl a 'mlaen sy'n golygu bydd y glaw yn symud yn araf ac yn disgyn yn drwm ac yn gyson am gyfnod.
Mae disgwyl dros hanner mis o law i ddisgyn mewn 48awr mewn ambell ardal. pic.twitter.com/iDGg1vQqpW
Y siroedd sy’n wynebu’r rhybudd yw Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Torfaen, Wrecsam, Ynys Môn.