Y Frenhines yn agor tymor y Chweched Senedd yn swyddogol

Y Frenhines yn agor tymor y Chweched Senedd yn swyddogol
Mae'r Senedd wedi'i agor yn swyddogol ar gyfer ei chweched tymor yn ddiweddarach ddydd Iau.
Mae’r digwyddiad yn arfer cael ei gynnal yn fuan ar ôl etholiad, ond oherwydd y pandemig cafodd ei ohirio yn dilyn etholiad mis Mai 2021.
Y Frenhines oedd yn agor y Senedd yn swyddogol ynghyd â Thywysog Cymru a Duges Cernyw.
Yn ystod yr agoriad ym Mae Caerdydd, roedd y Frenhines, y Llywydd Elin Jones a’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn gwneud areithiau yn siambr y Senedd.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiadau gan bobl o bob cwr o Gymru yn fyw ac ar-lein.
Roedd rhai o "arwyr" y pandemig hefyd wedi cael gwahoddiad, ar ôl cael eu henwebu gan eu Haelod o'r Senedd leol fel cydnabyddiaeth o'u cyfranogiad i'w cymuned.
Ymhlith y rhain mae'r rhedwr marathon Ian Turner, gwirfoddolwyr o Aberconwy a Alison Round, fu'n arwain grŵp gwnïo yn y Fflint i greu mygydau i weithwyr y GIG.
Dywedodd datganiad gan Senedd Cymru fod y perfformiadau sy’n rhan o’r digwyddiad yn “tynnu sylw at bwysigrwydd lleisiau pobl wrth lunio democratiaeth yng Nghymru” gan “gynrychioli gobeithion a dyheadau’r Chweched Senedd.”
Byddant yn cynnwys cerdd gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, cân gan sefydliad sy’n codi proffil lleisiau Du yng Nghymru, Tân Cerdd a pherfformiad gan gôr Opera Ieuenctid WNO am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Roedd teulu a gyrhaeddodd Cymru yn ddiweddar ar ôl ffoi o'r Taliban yn Afghanistan hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.
Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS: “Rydym ni i gyd wedi wynebu 18 mis na welwyd eu tebyg o’r blaen.
“Gyda’n gilydd rydym yn dechrau sesiwn y Senedd newydd hon â gobaith ac agwedd benderfynol.
“Heddiw, yn y digwyddiad i nodi Agoriad Swyddogol ein Senedd, rydym ni’n dathlu nid yn unig y Senedd ond y cymunedau amrywiol ledled Cymru y mae eu lleisiau’n cael eu cynrychioli oddi mewn i’r waliau hyn,” ychwanegodd.
'Pobl yng Nghymru gyda llawer i fod yn falch ohono'
Yn ystod ei haraith, dywedodd y Frenhines: “Llywydd, Prif Weinidog ac aelodau’r Senedd, mae’n bleser bod yma gyda chi heddiw.
“Ac rydw i’n llongyfarch chi ar eich etholiad diweddar. Rydych chi wedi cael eich galw fewn i fod yn llais i bobl Cymru.
“Pan oeddwn ni yma tro diwethaf, pum mlynedd yn ôl yn 2016, nes i nodi y byddai’r pumed tymor yn y Senedd cychwyn datblygiad newydd o ran datganoli yng Nghymru.
“Ers hynny, mae mesurau pellach wedi eu cymryd i gryfhau adeiladwaith eich democratiaeth seneddol.
“Rydych chi’n ymestyn i bob cenhedlaeth yng Nghymru drwy eich gwaith ac yn cynnig cyfle i glywed lleisiau pobl ifanc i allu neud gwahaniaeth i waith y Senedd.
“Rwyf wedi siarad yn ddiweddar am sut mae’r cyfnod diweddar wedi dod â ni yn agosach at ein gilydd.
“Mae gennym lot i ddiolch i’r rhai sydd wedi camu ymlaen i wynebu’r sialensiau yn ystod y deunaw mis diwethaf – o weithwyr rheng flaen i wirfoddolwyr, sydd wedi gwneud cymaint i’w cymunedau.
“Maen nhw’n esiampl wych o ysbryd y Cymry.
“Mae pobl yng Nghymru gyda llawer i fod yn falch ohono.
“Mae yna heriau o’n blaenau ac wrth i chi weithio a’ch gilydd i hybu lles pobl yng Nghymru ac i gefnogi’r ymdrech am adferiad.”
'Gennym yr anrhydedd a’r cyfrifoldeb i warchod ein democratiaeth'
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddiolch y Frenhines am ei hymweliad.
Dywedodd: “Fel y Prif Weinidog, gai gychwyn drwy ddweud ei bod hi’n bleser eich croesawu chi Eich Mawrhydi i agor chweched sesiwn y Senedd.
“Diolch i chi am eich geiriau caredig. Ga i ddiolch i chi am eich cefnogaeth tuag at y Senedd ers iddo gael ei agor am y tro cyntaf yn 1999.
“A hefyd diolch i chi am y gwasanaeth i chi wedi rhoi dros y blynyddoedd."
Ychwanegodd Mr Drakeford fod y Senedd yn wynebu "heriau" yn y blynyddoedd i ddod yn sgily pandemig.
“Yn y blynyddoedd i ddod, dwi’n siŵr y gwnawn ni ddadlau ac anghytuno ar beth sydd yn bwysig i Gymru," eglurodd.
“Ond wastad yn y Senedd yma, yn canolbwyntio ar beth sydd yn bwysig i’r bobl rydym yn cynrychioli.”
“Nawr rydym yma yn chweched tymor y Senedd yng nghysgod y coronafeirws – pandemig sydd wedi creu gymaint o alar i lawer o deuluoedd ar draws Cymru.
“Ar yr un pryd, rydym wedi gweld y gorau o Gymru, ein gofal iechyd a chymdeithasol, ein gweithwyr siopau, athrawon, yr holl weithwyr gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a gwirfoddolwyr.
“Mae eu gwaith called ac ymroddiad wedi cyfrannu at gadw Cymru’n agored yn ystod cyfnod anodd iawn.
“Wrth i ni edrych ymlaen o’r pandemig, rydym yn cydnabod bod gennym llawer iawn o heriau.
“I ddelio gyda nhw, naw ni ddefnyddio ein holl bwerau i hybu ffyniant, cydraddoldeb a lles.
“Fel cynrychiolwyr etholedig, mae gennym yr anrhydedd a’r cyfrifoldeb i warchod ein democratiaeth, i hybu lles ein pobl, a hybu'r prydferthwch naturiol y wlad rydym yn mor lwcus i alw’n adref.”