Heddlu’n ymchwilio ar ôl i bosteri gŵyl ffilm LHDTC+ gael eu difrodi
14/10/2021
Mae Heddlu’r De yn ymchwilio ar ôl i ddau boster oedd yn hysbysebu gŵyl ffilm LHDTC+ gael eu difrodi yng Nghaerdydd.
Mae’r heddlu’n trin yr achos, a ddigwyddodd rhyw bryd rhwng dydd Mawrth, 21 Medi a dydd Iau, 23 Medi, fel trosedd gasineb.
Yn ôl y llu, roedd y ddau boster, oedd mewn dau leoliad gwahanol yn Nhreganna, ymhlith posteri eraill oedd heb gael eu difrodi.
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn annog unrhyw un all helpu gyda’i hymchwiliad i gysylltu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod *345906.