Newyddion S4C

Cyhoeddi cynlluniau newydd am bynciau TGAU o 2025

Golwg 360 14/10/2021
S4C

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau nghylch pynciau TGAU fydd yn cael eu cynnig o 2025.

Gyda chwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn ysgolion Cymru yn 2022, mae sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cymwysterau am gael ei lansio.

Mae Cymwysterau Cymru am gydweithio a chlywed gan athrawon a gweithwyr addysgol proffesiynol cyn cyflwyno cynigion erbyn haf 2022.

Ond, gyda chymwysterau wedi cael eu hasesu yn wahanol yn sgil y pandemig, mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch diben arholiadau TGAU, gydag undeb UCAC yn gofyn a ddylid cael gwared arnyn nhw.

Y bwriad yw y bydd y cymwysterau newydd yn barod i ddysgwyr yn 2025.

Darllenwch y stori'n llawn ar wefan golwg360 yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.