Dyn yn defnyddio TikTok i godi ymwybyddiaeth o fyw gyda chyflwr prin

Mae dyn sydd â chyflwr arennau prin wedi denu miloedd o ddilynwyr ar y platfform cyfryngau cymdeithasol, TikTok trwy ddogfennu ei fywyd.
Cafodd Darren Daniel, 41 oed, o Gastell-nedd, ddiagnosis o Glomerwlosclerosis Segmentol Ffocal (FSGS) bron i chwe blynedd yn ôl.
Mae'r cyflwr yn ymosod ac yn niweidio'r glomerwlws - yr unedau bach sy’n hidlo y tu mewn i’r aren lle mae gwaed yn cael ei lanhau. Mae’n gallu effeithio oedolion a phlant.
Dywedodd Mr Daniel ei fod heb glywed am y cyflwr cyn ei ddiagnosis.
"Y prif symptom i mi oedd y blinder - roeddwn i wedi blino trwy'r amser. Roeddwn i fel arfer yn cwympo i gysgu ar y ffordd adref o’r gwaith.”
Roedd symptomau arall Mr Daniel yn cynnwys crampiau, chwyddo, pwysedd gwaed uchel, cael trwyn gwaed a phroblemau stumog.
Wrth siarad gyda Newyddion ITV, dywedodd Mr Daniel: “Nesi ddechrau gwneud fideos TikTok i helpu fy hun ac eraill i ddelio â'r salwch erchyll hwn, ac egluro'r symptomau, awgrymiadau ar sut i ddelio ag ef a sut i helpu i arafu dilyniant y clefyd.
"Cyn y diagnosis, roeddwn i bron yn anymwybodol o glefyd yr arennau. Yr unig eiriau roeddwn i wedi'u clywed oedd 'trawsblaniad' a 'dialysis' - dyna ni, yn y bôn.
"Mae TikTok yn ffordd dda o ymdopi ac i rannu'ch stori.”
Mae fideos Mr Daniel yn trafod symptomau cyffredin clefyd yr arennau, ei brofiadau ei hun gyda'r cyflwr a'i ymdrechion i godi arian ar gyfer ymchwil i'r arennau.
"Mae yna bobl yn yr un sefyllfa a fi. Mae pobl yn cysylltu gyda fi ac yn rhannu eu profiadau hefyd.
“Dwi’n teimlo mai dyma’r ffordd i mi siarad gyda phobl eraill sy'n deall. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn anhygoel. "
Mae gan Mr Daniel dros 30,000 o ddilynwyr ar TikTok ac mae’r niferoedd “yn cynyddu yn ddyddiol”, gyda deg miliwn o ‘views’ a mwy na 200,000 o bobl wedi hoffi ei fideos.
Yn ôl Mr Daniel, mae’r fideos wedi helpu eraill i gael yr un diagnosis.
"Yr ymateb gorau i mi yw pobl yn dod yn ôl ataf a dweud eu bod nhw wedi cael eu gwirio a'u profi, a nawr mae ganddyn nhw ddiagnosis o glefyd yr arennau hefyd."
Mae’r clefyd wedi newid bywyd Mr Daniel ond mae'n benderfynol o aros yn bositif.
"Mae'n well i mi ei reoli na dioddef," meddai.
"Mae gen i fywyd i fyw, mae gen i swydd i weithio, mae gen i filiau i'w talu, mae gen i blentyn i ofalu amdano. Felly dwi'n ceisio peidio gadael iddo effeithio arna i ormod. "
Mae modd cael cyngor a chefnogaeth ar glefyd yr arennau drwy wefan Aren Cymru a Sefydliad Arennau Cenedlaethol.