Gemau rygbi Cyfres yr Hydref ddim am fod yn fyw ar S4C eleni
Ni fydd gemau rygbi Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn cael eu dangos yn fyw ar S4C eleni.
Dywed y sianel y bydd modd ail-fyw y cyffro mewn rhaglenni uchafbwyntiau, a hynny awr wedi'r gic olaf ar ddiwedd pob gêm yn Stadiwm y Principality.
Deiliaid yr hawliau darlledu dros y gyfres yw Amazon Prime, sydd yn dangos y gemau'n fyw ar eu gwasanaeth ffrydio.
Fe fydd uchafbwyntiau gemau Cymru yng Nghaerdydd yn erbyn Seland Newydd, De Affrica, Fiji ac Awstralia yn cael eu dangos ar raglenni estynedig ac ar S4C Clic yn dilyn y darllediadau.
Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Mae S4C yn falch i bartneru gydag Amazon Prime er mwyn sicrhau arlwy cynhwysfawr o Gyfres Hydref y Cenhedloedd yn yr iaith Gymraeg ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
“Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus am-ddim i ddangos uchafbwyntiau o bob un o gemau Cymru yn ystod Cyfres Hydref y Cenhedloedd, fe fyddwn ni ar yr awyr awr ar ôl y chwiban olaf gyda’r holl uchafbwyntiau a’r ymateb. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael eich cwmni.”
Sarra Elgan fydd yn arwain tîm cyflwyno S4C yn ystod y gyfres, gyda Gareth Charles yn y blwch sylwebu a Rhodri Gomer yn gohebu. Ymysg yr enwau fydd yn dadansoddi’r gemau bydd cyn chwaraewyr Cymru, Gwyn Jones a Shane Williams, a’r cyn dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans