Newyddion S4C

Pàs Covid-19: Beth sydd angen i mi ei wneud?

11/10/2021
S4C

Fe fydd yn orfodol i ddangos pàs Covid-19 mewn digwyddiadau torfol mawr yng Nghymru o 07:00 ddydd Llun.

I unrhyw un sy’n mynychu clwb nos neu ddigwyddiad mawr, bydd yn rhaid dangos prawf eich bod wedi cael dau frechlyn Covid-19 neu brawf llif unffordd negatif yn ystod y 48 awr ddiwethaf.

Fe all unrhyw berson dros 16 oed gael pàs Covid-19, ond dim ond i bobl 18 oed y bydd yn orfodol i ddangos y pàs i gael mynediad i:

-Glybiau nos a mannau sy’n debyg i glwb nos (gweler isod);

-Digwyddiadau dan do gyda mwy na 500 o bobl, lle nad oes pawb yn eistedd;

-Digwyddiadau tu allan gyda mwy na 4,000 o bobl, lle nad oes pawb yn eistedd

-Unrhyw ddigwyddiad gyda mwy na 10,000 o bobl. 

Clybiau nos, bariau a thafarndai 

Bydd angen dangos pàs Covid-19 i gael mynediad i glwb nos ac unrhyw fan sydd yn gwerthu alcohol, yn chwarae cerddoriaeth ar gyfer dawnsio ac ar agor ar unrhyw adeg rhwng 00:00 a 05:00.

Hynny yw, fe allai rhai bariau a thafarndai fod yn gymwys i orfodi pobl i ddangos pàs Covid-19.

Er enghraifft, os oes tafarn neu far sydd â llawr dawnsio yn dechrau chwarae cerddoriaeth am 18:00 ac sy’n parhau i wneud hynny tan ar ôl hanner nos, bydd angen i bobl sy’n mynychu ddangos pàs Covid hyd yn oed os ydyn nhw’n cyrraedd cyn 18:00 (os ydyn yn bwriadu aros yn y lleoliad unwaith i’r gerddoriaeth ddechrau).

Os yw’r dafarn neu’r bar yn cau cyn 00:00, ni fydd angen i bobl ddangos pàs Covid (heblaw bod y lleoliad yn cynnal digwyddiad gyda mwy na 500 o bobl, lle nad yw pawb yn eistedd).

Ydy hyn yn berthnasol i bawb? 

Dim ond i bobl dros 18 oed sydd yn aelodau o’r cyhoedd ac sy’n mynychu’r digwyddiadau uchod fydd yn gorfod dangos y pàs.

Ni fydd gofyn i staff, perfformwyr, gwirfoddolwyr na gweithwyr sydd yn ymwneud â’r digwyddiadau i ddangos pàs.

Oes unrhyw leoliadau sy'n cael eu heithrio? 

Mae’r lleoliadau canlynol wedi eu heithrio yn benodol o’r gofynion i ddangos pàs:

-Digwyddiad tu allan sydd ddim yn gofyn am docyn neu ffi mynediad neu sydd â mwy nag un fynedfa (er enghraifft, arddangosfa tân gwyllt mewn parc cyhoeddus).

-Protest

-Digwyddiad chwaraeon fel marathon, triathlon neu ras seiclo

Beth fydd yn digwydd os nad ydw i'n dangos y pàs? 

I unrhyw un dros 18 oed, mae dangos y pàs yn orfodol o 11 Hydref.

Felly, bydd swyddog wrth y drws yn caniatáu mynediad i bobl sy’n dangos y pàs a bydd unrhyw un sydd yn methu gwneud hyn yn cael eu gwrthod rhag mynychu’r digwyddiad.

O ddydd Llun, bydd yn drosedd i ddefnyddio pàs Covid ffug neu wneud prawf llif unffordd ffug.

Gallai unrhyw un sy’n gwneud hyn wynebu dirwy o £60.

Os oes lleoliad yn methu â gorfodi’r rheol, gallai hyn olygu bod y man yn gorfod cau am hyd at 28 diwrnod ar y tro.

Mae’n bosib y gallai’r lleoliad dderbyn dirwy hefyd. 

Sut ydw i’n derbyn pàs?

Mae’r Pàs Covid ar gael yn ddigidol a gellir ei dderbyn trwy gofrestru am gyfrif mewngofnodi GIG. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.