Newyddion S4C

Defnyddio technoleg newydd i asesu risg tomenni glo

Newyddion S4C 09/10/2021

Defnyddio technoleg newydd i asesu risg tomenni glo

Mae gwaith adfer yn cael ei wneud ar domenni glo yn y de, gan gynnwys yn Ynyshir, y Rhondda, ble bu tirlithriad y llynedd yn dilyn tywydd garw.

Bellach, mae’r awdurdod glo a Llywodraeth Cymru yn troi at dechnoleg newydd.

Bydd lloeren yn cael ei defnyddio er mwyn dweud faint o ddŵr sydd o dan wyneb y tomenni, gan amlygu ble sydd mewn peryg o ddioddef tirlithriad.

Mae Phil Thomas yn byw islaw'r tomenni glo yn Ynyshir.

Mae’n croesawu'r defnydd newydd o dechnoleg, ond yn dweud y dylai mwy gael ei wneud.

"Ffaith bod nhw yn mynd i ddefnyddio technoleg lloeren, mae hwna'n gam ymlaen ta beth. Felly, falle ar y cyd gyda gwaith lloeren, gellen nhw denfyddio tyllau tiro yn y tomenni a'r lefelau ma' nhw'n gallu gweld o'r lloeren i dod a rhyw fath o syniad o ydy'r tomen wrth beryg."

Mae undeb y glowyr, er eto yn croesawu’r dechnoleg, yn dweud bod hi’n amlwg mewn ambell le bod 'na waith sydd angen ei wneud.

Dywedodd Wayne Thomas o Undeb Cenedlaethol y Glowyr: “Ni yn credu bod pobl yn Cymru yn deall yn barod, pwy tips ar y funud sy’ eisiau cael ei wneud yn syth. Cyn bo pobl yn disgwyl am y dechnoleg newydd, mae fe’n bwysig iawn i roi arian i gael gwared a’r tips sy’ ‘na nawr”.

Fe ddangosodd ymchwil ddiweddar fod bron i 300 o domenni glo Cymru yn risg uchel.

Nid yw llywodraethau Cymru a Phrydain ddim wedi cytuno pwy ddylai dalu am y gwaith adfer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.