
Teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i Covid-19 yn galw am ymchwiliad i Gymru

Teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i Covid-19 yn galw am ymchwiliad i Gymru
Mae teuluoedd a gollodd anwyliaid i Covid-19 yn ystod y pandemig wedi bod yn cwrdd â’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Iau i alw am ymchwiliad cyhoeddus i'r modd y deliwyd a'r argyfwng yng Nghymru.
Maen nhw'n ofni y bydd y sefyllfa yng Nghymru yn mynd ar goll yn yr ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.
Yn ôl Shirley Ann Jones a gollodd ei Mam, Pauline Jones, ar ddechrau’r pandemig ystadegyn fydd ei Mam heb ymchwiliad ac atebion penodol.

“Ma' nhw yn mynd i drio neud UK enquiry ond y drwg ydi efo huna oedd Cymru efo rheolau i hunan,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.
“Yn yr UK enquiry ma'n mynd i fod mor fawr ma' Cymru jyst yn mynd i fod ar goll yn ganol hwnna 'de.
“Dwi'n teimlo ‘ma jyst rhif di Mam wan - jyst statistic.
"Gan bo ni ddim di cael bod yna yn y diwedd iddi hi dwi'n teimlo fatha bo fi angen cwffio am rywbeth a bo hi angen rywbeth gwell 'na be gafodd hi.”
Roedd Pauline Jones 75 oed ac yn dioddef o dementia ac yn derbyn triniaeth mewn ysbyty fis Chwefror 2020.
Deufis yn ddiweddarach ac ynghanol y clo mawr hi farw ar ôl dal y firws yn yr ysbyty.
“Dwi'n cofio deud wrth Dad, ‘Paid â poeni am Mam, ma' Mam yn y lle saffa un allith hi fod mae'n yr ysbyty. So ma' hi mwy saff na neb arall'," dywedodd Shirley.

“Ond doedd hi ddim nag oedd?
“Gatho ni ddim gweld mam o gwbl yn y pump wythnos diwethaf.
“Nath Dad gael mynd i weld hi dau ddiwrnod cyn iddi fynd, ond odd gynno nhw ond digon o PPE i mond un person fynd i weld hi, wedyn odd hwnna yn anodd iawn.

“Goro watchad Dad yn mynd drwy huna i hun efo dim cefnogaeth o gwbl, ac wedyn o'n i jyst yn eistedd yn y car yn gorfod disgwyl iddo ddod yn ôl.
“Er o'n i mor agos iddi, do'n i ddim yn cael mynd i weld hi.
“Peth diwetha fedrwch chi neud i'ch rhieni di bod yna at y diwedd 'de a gafodd bob dim i gymryd oddi wrtha ni rili.”