Newyddion S4C

Cabinet Cyngor Sir Penfro o blaid dyblu'r dreth ychwanegol ar ail gartrefi

04/10/2021
Penfro

Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cefnogi argymhelliad i gynyddu'r dreth ychwanegol ar ail gartrefi i 100% mewn cyfarfod ddydd Llun.

Golygai hyn y gallai'r dreth ar ail gartrefi yn y sir ddyblu o 50% i 100% o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth y Cabinet hefyd gefnogi'r cais i gadw premiwm o 100% ar drethi cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir.

Fe gododd y cyngor bremiwm treth cyngor o 50% ar ail gartrefi a phremiwm o hyd at 100% ar dai gwag yn 2017.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mewn cyfarfod llawn o'r cyngor, a hynny ar 14 Hydref.

Darllenwch y stori'n llawn gan y Tenby Observer yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.