Teyrnged i ddyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot
Mae teulu dyn 60 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Paul 'Walter' Watkins, oedd yn fecanydd o Draethmelyn, wedi gwrthdrawiad ar feic modur ar ffordd yr A4241 rhwng cylchdro Ffordd Afan a Pharc Ynni Baglan ychydig cyn 16:45 ddydd Gwener.
Dywedodd y teulu fod Mr Watkins yn ddyn parchus, oedd â diddordeb mawr mewn beicio modur, ac roedd ei holl deulu a'i gyfeillion yn ei garu.
Roedd yn weithiwr "ffyddlon" i gwmni Mount Motorcycles lle bu'n gweithio ers sawl blwyddyn. Yn wreiddiol o Sgiwen, roedd Mr Watkins yn "ddyn adnabyddus" yn yr ardal. Mae ffrindiau iddo wedi ei ddisgfrio fel "rhywun ysbrydoledig" ac yn "ffrind a mecanydd beic gorau byddai unrhyw un wedi'i dymuno i'w gael".
Ychwanegodd y teulu "nad oedd geiriau i ddisgrifio’r golled" ar hyn o bryd.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau â'r ymchwiliad ac yn apelio i unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd bryd hynny a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau dashfwrdd sy’n dangos y gwrthdrawiad i gysylltwch â nhw trwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100345582.