Rhagolwg gemau JD Cymru Premier

Torrodd y newyddion mawr yr wythnos hon bod Andy Morrison wedi gadael ei swydd fel rheolwr Cei Connah wedi chwe blynedd lwyddiannus wrth y llyw.
Craig Harrison sydd wedi ei benodi i gymryd ei le, sef y rheolwr mwyaf llwyddiannus yn holl hanes y gynghrair (chwe phencampwriaeth), felly mae’r clwb yn sicr mewn dwylo diogel.
Ers cymryd yr awenau yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ym mis Tachwedd 2015, mae Morrison wedi trawsnewid clwb Cei Connah o fod yn ‘glwb hanner isaf’ i fod yn bencampwyr Cymru am y ddau dymor diwethaf.
Mae Cei Connah wedi ennill Cwpan Nathaniel MG (1), Cwpan Cymru JD (1) a phencampwriaeth y Cymru Premier JD (2) yng nghyfnod Andy Morrison, yn ogystal â sicrhau buddugoliaethau anhygoel yn Ewrop ac yng Nghwpan Her yr Alban.
Ond ar ôl dechrau caled i’r tymor, mae Cei Connah wyth pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd wedi dim ond chwe gêm, ac mae Morrison wedi penderfynu mae dyma’r amser i symud ymlaen.
Yn dilyn prysurdeb a chyffro’r cwpanau dros yr wythnos ddiwethaf, bydd y sylw’n troi yn ôl at y gynghrair y penwythnos yma, a bydd Cei Connah yn gwneud y daith hir i Hwlffordd ddydd Sadwrn.
Cyn hynny, mae’n addo i fod yn gêm fawr ar Gae-y-Castell nos Wener rhwng y ddau dîm sy’n hafal ar bwyntiau yn yr 2il a’r 3ydd safle.
Dydd Sadwrn, 2 Hydref
Hwlffordd (11eg) v Cei Connah (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae cyfnod Andy Morrison fel rheolwr Cei Connah wedi dod i ben, a tybed a’i dyma’r diwedd felly i deyrnasiaeth y pencampwyr o Lannau Dyfrdwy?
Wedi wythnos lwyddiannus yn y cwpanau mae Cei Connah wedi sicrhau lle yn rownd nesaf Cwpan Nathaniel MG a Chwpan Cymru.
Enillodd y Nomadiaid 6-3 yn erbyn Airbus UK nos Fawrth, cyn trechu Trefelin 0-4 yng Nghwpan Cymru brynhawn Sadwrn.
Bydd Cei Connah yn wynebu Treffynnon yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG, ac yn barod am frwydr yn erbyn Y Fflint ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.
Roedd hi’n wythnos dda i Hwlffordd hefyd, enillodd yn erbyn Gwndy ac Airbus UK i gamu ymlaen yn y cwpanau.
Bydd Hwlffordd yn herio Met Caerdydd yn rownd nesaf Cwpan Nathaniel MG, ac yn croesawu’r Bala i Ddol-y-Bont yng Nghwpan Cymru.
Daeth gemau’r cwpan ar yr adeg gywir i Gei Connah oedd mewn cyfnod caled ar ôl pedair gêm heb ennill yn y gynghrair.
Mae’r pencampwyr wedi llithro i’r 6ed safle, wyth pwynt y tu ôl i geffylau blaen Y Seintiau Newydd wedi dim ond chwe gêm.
Mae amddiffyn Cei Connah yn parhau i fod ymysg y gorau'n y gynghrair – ildio pedair gôl mewn chwe gêm (hafal â’r Bala), ond sgorio sydd wedi bod yn drafferth i’r Nomadiaid – dim ond pum gôl yn y gynghrair hyd yma.
Ond efallai bydd sgorio 10 gôl yn y ddwy gêm gwpan yr wythnos diwethaf wedi codi ysbryd ymosodwyr y Nomadiaid.
Ac mi fydd Hwlffordd yn llawn hyder hefyd yn dilyn tair buddugoliaeth o’r bron, ond bydd hi’n dasg anodd i’r Adar Gleision sydd wedi colli eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌❌❌✅
Cei Connah: ✅➖➖❌❌
Met Caerdydd (7fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Cyhoeddodd y Derwyddon yr wythnos diwethaf bod Niall McGuinness wedi gadael ei rôl fel rheolwr y clwb wedi dim ond chwe gêm gynghrair wrth y llyw.
Cyn-asgellwr Tottenham a Portsmouth, Andy Turner sydd wedi cymryd yr awenau dros dro, ac fe gafodd ei flas cyntaf o arwain y tîm y dydd Sadwrn diwethaf wrth i’r Derwyddon golli 4-1 yn erbyn Aberystwyth yng Nghwpan Cymru.
Mae hi’n mynd i fod yn her hynod o anodd i Andy Turner, neu i bwy bynnag fydd yn cael y swydd barhaol gan fod y Derwyddon wedi colli eu 15 gêm gynghrair ddiwethaf, sef y record waethaf erioed gan unrhyw glwb yng nghyfnod y 12 Disglair yn y Cymru Premier JD.
Yn wahanol i’r Derwyddon, mae ‘na deimlad da yng ngharfan y myfyrwyr ar hyn o bryd wedi pum buddugoliaeth o’u chwe gêm ddiwethaf.
Enillodd Met Caerdydd eu dwy gêm gwpan yr wythnos diwethaf yn erbyn clybiau o’r uwch gynghrair, gan yrru Aberystwyth allan o Gwpan Nathaniel MG (2-5) a churo’r Barri yng Nghwpan Cymru (3-0).
Bydd tîm Dr. Christian Edwards yn wynebu Hwlffordd yn rownd nesaf Cwpan Nathaniel MG, a thaith gyffrous i Fae Colwyn sydd ar y gweill yng Nghwpan Cymru.
Dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u pedair gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon (ennill 2, cyfartal 2), ond mae’n rhaid i rediad gwarthus Hogiau’r Graig ddod i ben rhywbryd does bosib.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖➖✅✅❌
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Pen-y-bont (8fed) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Tydi’r tabl ddim yn adrodd stori Pen-y-bont yn deg iawn ar hyn o bryd, gyda’r clwb yn eistedd yn yr 8fed safle gan mae dim ond y Derwyddon (0) sydd wedi ennill llai o gemau cynghrair na Phen-y-bont (1).
Er hynny, dim ond Y Seintiau Newydd a’r Bala (0) sydd wedi colli llai o gemau cynghrair na Phen-y-bont (1), gan fod tîm Rhys Griffiths wedi cael pedair gêm gyfartal a phedwar pwynt da yn erbyn y pedwar clwb gyrhaeddodd Ewrop y tymor diwethaf.
Dyw Pen-y-bont ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, felly bydd hi’n brynhawn caled i Gaernarfon, sydd ond wedi ennill un o’u naw gêm ddiwethaf oddi cartref yn y Cymru Premier JD.
Mae Caernarfon wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf, yn cynnwys buddugoliaeth 3-0 yn erbyn Prestatyn nos Wener i selio lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.
Bydd y Cofis yn gorfod dychwelyd i Ben-y-bont ymhen pythefnos gan fydd y clybiau’n cwrdd yn rownd nesaf Cwpan Cymru wedi i fechgyn Bryntirion guro Cambrian a Clydach yn y rownd ddiwethaf.
Dyw Pen-y-bont heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris (ennill 2, cyfartal 3), a byddai triphwynt i’r tîm cartref yn eu codi uwchben hogiau Huw Griffiths.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖➖❌➖✅
Caernarfon: ❌❌➖✅✅
Y Barri (5ed) v Y Drenewydd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y ddau reolwr yn awyddus i weld ymateb gan eu chwaraewyr wedi colledion siomedig yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn diwethaf.
Collodd Y Barri 3-0 yn erbyn Met Caerdydd, tra roedd Y Drenewydd ar yr ochr anghywir i un o ganlyniadau mwyaf annisgwyl y rownd wrth i Gaerfyrddin o’r adran is eu curo ar giciau o’r smotyn.
Mae’r Drenewydd wedi colli eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf hefyd, gan syrthio o’r 4ydd i’r 9fed safle.
Tydi’r Barri heb golli dim un o’u chwe gêm gartref ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn (ennill 5, cyfartal 1), ond dyw’r Robiniaid heb golli dim un o’u pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 2, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖✅✅✅❌
Y Drenewydd: ➖✅✅❌❌