
Drama yn rhoi cydnabyddiaeth i famau newydd y pandemig
Drama yn rhoi cydnabyddiaeth i famau newydd y pandemig
Dros yr hydref, mae drama gyntaf dan do gan y Theatr Genedlaethol ers cyn y pandemig yn teithio i saith canolfan theatr ar draws Cymru.
Mae’r ddrama ‘Anfamol’ gan y dramodydd Rhiannon Boyle yn dilyn taith merch sengl sy’n defnyddio banc sberm er mwyn cael babi yn ystod y cyfnod clo.
Mae Rhiannon yn credu ei bod hi’n bwysig cynrychioli pab ar lwyfan, gan gynnwys mamau sengl a’r rheini sydd wedi defnyddio banc sberm, nid dim ond y “delwedd draddodiadol o deulu.”
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Rhiannon ei bod hi’n gobeithio bod yn ddrama yn rhoi “cydnabyddiaeth i famau newydd y pandemig.”
“Dwi’n meddwl bod cael babi yn anodd eniwe, o ran y newidiadau i dy gorff, dy ymennydd, a cholli dy hunaniaeth, ma’n massive cael babi." meddai.
"Nes i ffeindio fo’n anodd iawn pam gesi fy mhlant i.
“Yn anaml mae pobl yn trafod pa mor anodd yw’r dyddiau cynnar ar ôl cael babi – da ni’n gyfarwydd iawn â’r lluniau perffaith ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae’r unigrwydd sy’n dod o fod adre gyda’ch babi newydd yn rhywbeth y galla i a phob mam dwi’n ’nabod uniaethu ag o; ac ar ben hynny, y pandemig.
“Dwi’n cofio lifeline fi oedd mynd allan a thrafod efo mamau eraill, dwi jyst ddim yn gallu dychmygu bod yn y sefyllfa lle ti ddim yn gallu gwneud hynny.
“Dwi’n sicr yn meddwl bod nhw angen y cydnabyddiaeth yna, achos ma' nhw wedi neud yn amazing.”

Wrth ymchwilio ar gyfer ysgrifennu'r ddrama roedd Rhiannon wedi siarad gyda sawl merch oedd wedi defnyddio banc sberm i gael babi, ac roedd hi’n meddwl bod eu hanesion a’r broses yn bwysig i’w adrodd.
“Be nesi ffeindio bod ganddyn nhw i gyd yn gyffredin oedd bod nhw gyd mor gryf, ac yn ffeminist, ac yn meddwl ‘dwi jyst yn mynd i neud hwn ar ben fy hun pam ddim’,” dywedodd.
“Oni’n meddwl wrtha i fi dy hun dwi jysd isio sgwennu’r cymeriad yna, sydd jyst yn meddwl dwi ddim angen dyn, os tisio babi does dim rhaid chdi gael dyn i neud o ddyddiau yma nag oes.”
Dyma’r ddrama gyntaf o waith y dramodydd Rhiannon Boyle i’w chyflwyno’n broffesiynol yn y Gymraeg.
Rhiannon oedd awdur preswyl cyntaf BBC Cymru a National Theatre Wales yn 2019, a darlledwyd ei drama radio gyntaf, Safe from Harm, ar BBC Radio 4 yn gynharach eleni.
Dywedodd Rhiannon y bysa hi’n “hoffi ysgrifennu mwy o ddramâu ar gyfer radio a sgwennu mwy o waith theatr yn y dyfodol.”
Prif lun: Theatr Cenedlaethol Cymru