Dyn yn gwadu llofruddio athrawes yn Llundain

Mae dyn sydd yn y ddalfa dan amheuaeth o lofruddio’r athrawes Sabina Nessa wedi pledio’n ddieuog i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad llys yn Willesden.
Ymddangosodd Koci Selamaj, 36, o flaen ynadon ddydd Mawrth.
Yn ôl The Mirror, siaradodd Mr Selamaj i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni cyn pledio’n ddieuog i lofruddio'r athrawes.
Mae dau ddyn arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Ms Nessa wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Cafwyd hyd gorff Ms Nessa mewn parc yn ne-ddwyrain Llundain am tua 19:30 nos Sadwrn 18 Medi.
Darllenwch y stori’n llawn yma.