Cynllun am ddeddf sydyn i ddileu teitl yr Arglwydd Mandelson 'wedi ei roi i'r neilltu'
Bydd cynlluniau i gael gwared â theitl yr Arglwydd Peter Mandelson drwy ddeddfwriaeth sydyn ddim yn digwydd, yn ôl adroddiadau.
Ym mis Chwefror, dywedodd Syr Keir Starmer, oedd yn brif weinidog ar y pryd, ei fod wedi gofyn i swyddogion lunio deddfwriaeth i dynnu statws arglwyddiaeth oddi ar yr Arglwydd Mandelson wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Cafodd Mandelson ei ddiddymu o’i rôl fel llysgennad y Deyrnas Unedig i’r Unol Daleithiau y llynedd oherwydd ei gysylltiadau â’r pedoffeil a'r ariannwr cyfoethog Jeffrey Epstein.
Roedd deddfwriaeth i ganiatáu tynnu urddau oddi ar arglwyddi ymhlith y cynlluniau gafodd eu hamlinellu yn Araith y Brenin ym mis Mai, ond yn ôl adroddiad yn y Sunday Times ddydd Sul, mae cynlluniau am ddeddf sydyn i dargedu’r Arglwydd Mandelson wedi cael eu rhoi i’r neilltu.
Wrth siarad â Sky News, mynnodd un o weinidogion y Llywodraeth yn San Steffan, Lucy Powell, y bydd yn gweithredu i dynnu anrhydeddau oddi ar arglwyddi sydd wedi camymddwyn, ond cyfaddefodd mai prin oedd yr amser i gyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu hynny.
'Sarhad bwriadol'
Mae rhai o’r gwrthbleidiau, gan gynnwys yr SNP a Phlaid Cymru, wedi galw ar y Prif Weinidog Andy Burnham i ddweud yn glir beth yw safbwynt a gweithredu’n sydyn i ddelio ag achos y cyn-wleidydd Llafur.
Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, y byddai methiant i gael gwared ag anrhydeddau'r Arglwydd Mandelson yn “teimlo fel sarhad bwriadol” i ddioddefwyr Epstein.
“Mae’r Llywodraeth yn dweud ei fod wedi ymrwymo i’r egwyddor na ddylai arglwyddi sydd wedi camymddwyn gael cadw’u teitlau. Dyw egwyddorion ond yn cyfrif os ydych yn barod i weithredu arnyn nhw,” meddai.
Wrth siarad ar Sky News, dywedodd Lucy Powell, yr Ysgrifennydd Addysg yng nghabinet Burnham, nad oedd y rheolau ynghylch delio ag arglwyddi sydd wedi camymddwyn yn ddigon “cryf”.
“Rydym yn hollol glir ei bod ni eisiau gweld mesurau cryfach yn Nhŷ’r Arglwyddi all ddelio gyda’r rheiny sy’n dwyn anfri ar y Tŷ i bob pwrpas, ac yn torri’r rheolau neu yn ymddwyn mewn ffordd anaddas.”
Ond cyfaddefodd mai prin oedd yr amser i gyflwyno ddeddfwriaeth ac y byddai penderfyniadau ar sut i ddefnyddio’r amser hwnnw yn ystyried y sefyllfa yn ei chyfanrwydd.
Ymchwiliad i Mandelson
Gadawodd yr Arglwydd Mandelson ei swydd fel prif gynrychiolydd Prydain yn Washington y llynedd wedi i lwyth o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein, fu farw yn 2019, gael eu rhyddhau.
Mae’n wynebu ymchwiliad heddlu yn ogystal wedi iddi ddod i’r amlwg iddo ryddhau gwybodaeth sensitif i’r ariannwr Epstein tra’n gwasanaethu fel gweinidog yn Llywodraeth y DU.
Er ei fod wedi ymddeol yn wirfoddol o Dŷ’r Arglwyddi, byddai’n rhaid pasio deddfwriaeth seneddol i gael gwared â statws Peter Mandelson fel Arglwydd.