Dwy brifysgol yn ystyried ffyrdd newydd o gydweithio wrth i'r sector wynebu heriau ariannol

Llun myfyrwyr, logos prifysgolion

Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi y byddan nhw’n edrych ar ffyrdd newydd o gyd-weithio’n agosach.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y prifysgolion bod cynghorau llywodraethu’r ddau sefydliad wedi rhoi mandad iddyn nhw edrych ar opsiynau “mwy cydlynol” a chychwyn “trafodaethau manwl” gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill “ynghylch trefniadau a strwythurau sefydliadol.”

Daw’r cyhoeddiad mewn wythnos gythryblus i addysg uwch yng Nghymru, gyda Phrifysgol Bangor yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ddiswyddiadau i fynd i'r afael â diffyg o £15 miliwn yn eu cyllideb.

Fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth gyhoeddiad tebyg yn gynharach yn y mis, wrth i sefydliadau ar draws y wlad gwtogi’u gweithlu mewn cyfnod wedi cael ei ddisgrifio fel “argyfwng” gan undeb yr UCU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o addysg uwch yng Nghymru, sy’n debygol o adrodd yn ôl y flwyddyn nesaf.

'Cyfuno strategol'

Fe arwyddodd prifysgolion Aberystwyth ac Y Drindod Dewi Sant, sydd â champysau yng Nghaerfyrddin, Abertawe a thu hwnt, femorandwm cyd-ddealltwriaeth yn gynharach eleni.

Dywedodd y prifysgolion bydd y cam nesaf yn “ystyried sut gall mwy o gyfuno strategol a sefydliadol gyflawni buddiannau newydd i ddysgwyr, tra ar yr un pryd, yn gwarchod hunaniaeth arbennig, cryfderau academaidd a chysylltiadau â chymunedau y ddau sefydliad – a hynny o fewn fframwaith ariannol cynaliadwy.”

Yn ôl eu datganiad, bydd “anghenion dysgwyr, a’r uchelgais i lunio system drydyddol fwy cysylltiedig wrth wraidd y gwaith hwn,” gan bwysleisio’r cysylltiad rhwng gwahanol fathau o addysg bellach ac uwch. 

Mae cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg a ddwyieithog hefyd yn flaenoriaeth, meddai'r sefydliadau, sy'n dweud y gallai'r model cydweithio yn y pen draw arwain at "ymagwedd newydd a mwy cydlynol at addysg drydyddol yng Nghymru."

“Drwy edrych ar strwythurau sefydliadol a allai olygu ein bod ni’n gweithio’n fwy agos gyda’n gilydd, mae gennym ni’r cyfle i greu llwybrau cliriach i ddysgwyr, cryfhau darpariaeth sy'n strategol bwysig, a datblygu model mwy gwydn ar gyfer addysg drydyddol,” meddai'r Athro Elwen Evans, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Ychwanegodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae ein huchelgais ar gyfer y rhanbarth a’n darpariaeth academaidd sy’n flaengar yn y byd wrth galon y trafodaethau. Trwy ein cydweithio, mae gennym ni’r cyfle i lunio dyfodol disglair i addysg drydyddol yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at drafod ymhellach wrth i’r datblygiad pwysig hwn fynd yn ei flaen.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.