Ymosodiad gan Israel ar Gaza yn lladd dau o weithwyr elusen feddygol MSF
Mae elusen feddygol ryngwladol wedi galw am "atebolrwydd" ar ôl i ddau o'u gweithwyr gael eu lladd mewn ymosodiad gan Israel ar glinig yn Gaza.
Yn ôl Médecins Sans Frontières (MSF) cafodd eu clinig ei daro'n "uniongyrchol" er bod y safle "wedi ei farcio'n glir gyda logos MSF" a bod lluoedd milwrol Israel wedi cael eu hysbysu am waith yr elusen yno.
Dywedodd pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, bod ymosodiadau ar gyfleusterau iechyd a gweithwyr iechyd "yn warthus ac annerbyniol."
Ond yn ôl Lluoedd Amddiffyn Israel, yr IDF, roedd y ddau fu farw yn aelodau o grŵp terfysgol Hamas oedd yn gweithio fel "swyddogion diogelwch mewn clinig sy'n cael ei redeg gan MSF."
Mynnodd yr IDF hefyd nad oedd yr ymosodiad yn targedu ysbyty, gan ddweud bod dim isadeiledd feddygol wedi ei niweidio.
Ond mewn datganiad yn hwyr nos Wener, dywedodd yr elusen eu bod wedi eu "cythruddo" gan yr "ymosodiad uniongyrchol ar MSF, sy'n dod â chyfanswm ein cydweithwyr o MSF sydd wedi cael eu lladd yn Gaza i 17."
Roedd y ddau fu farw yn gweithio fel "gwylwyr" yn ôl MSF.
Ychwanegodd: "Roedd ein safle wedi'i farcio'n glir gyda logos MSF, ac roedd y fyddin Israel wedi cael gwybod am y lleoliad ac yn ymwybodol ohono.
"Rydym yn sefyll mewn undod â theuluoedd ac anwyliaid ein cydweithwyr. Rydym yn galw am atebolrwydd."
Yn eu datganiad, dywedodd yr IDF mai'r ddau fu farw oedd Ahmed Sufyan Muhammad Ali Abu Hasira a Moaz Yousef Alitsbach, gan honni eu bod yn perthyn i asgell filwrol Hamas.
Ymosodiadau'n parhau
Fe ddechreuodd y rhyfel diweddaraf rhwng Israel a Hamas wedi ymosodiad gan y grŵp terfysgol Islamaidd ar Israel ar 7 Hydref, 2023, a laddodd tua 1,200 o bobl.
Mewn ymateb, lansiodd Israel ymosodiadau ar Hamas yn Gaza, gan achosi dinistr llwyr mewn rhannau helaeth o'r diriogaeth.
Mae bron i 75,000 o bobl wedi eu lladd yn sgil yr ymosodiadau, yn ôl yr awdurdodau yn Gaza. Mae llawer o arbenigwyr rhyngwladol yn diffinio gweithredoedd Israel yn Gaza fel hil-laddiad - honiad sy'n cael ei wadu'n llwyr gan Israel.
Er gwaethaf cadoediad gafodd ei negodi gan yr Unol Daleithiau ym mis Hydref y llynedd, mae ymosodiadau dyddiol yn parhau ar rannau o Gaza sydd dan reolaeth Hamas.
Mae'r sefyllfa ddyngarol yn parhau'n argyfyngus yno, gydag elusennau'n apelio am hawl gan Israel, sy'n rheoli ffiniau Gaza, i ddod â mwy o gymorth i Balesteiniaid sydd mewn angen.
Llun: MSF, WAFA/APAimages/Wikimedia Commons (CC BY-SA 3.0)
