Yr heddlu’n annog rhieni i feddwl ddwywaith cyn prynu sgwter trydan neu feic trydan i’w plant y Nadolig hwn
Mae un o heddluoedd Cymru wedi annog rhieni i feddwl ddwywaith cyn prynu sgwter neu feic trydan yn anrheg Nadolig i’w plant.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymgyrchoedd rheolaidd sy’n targedu sgwteri trydan, beiciau trydan a beiciau sydd wedi’u haddasu, ac yn rhybuddio y gallai rhieni gael eu herlyn os ydyn nhw’n gadael i’w plentyn reidio sgwter trydan yn anghyfreithlon.
Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf eleni, cafodd yr heddlu 460 o alwadau lle cafodd sgwteri trydan neu feiciau trydan eu crybwyll. O’r galwadau hynny, cafodd 204 eu cofnodi fel rhai oedd yn ymwneud â throseddu.
O Sir Benfro, yn enwedig Hwlffordd, ac o Lanelli yn Sir Gaerfyrddin y daeth y nifer fwyaf o alwadau yn ystod y cyfnod.
Dywedodd y Rhingyll Tom Grace, o Dîm Plismona Bro ac Atal Llanelli, mai plant o dan 15 oed sy’n reidio’r rhan fwyaf o’r sgwteri trydan llai sy’n costio rhwng £200 a £300.
“Mae’n amlwg nad y plant sydd wedi’u prynu nhw,” meddai.
“Mae’n debygol iawn mai rhiant sydd wedi prynu’r sgwter i’w plentyn ac wedi rhoi’r plentyn mewn perygl heb fwriadu gwneud hynny.”
Diogelwch
Mae’r heddlu’n dweud y gall sgwter trydan ymddangos yn anrheg gyffrous i blentyn, ond maen nhw’n annog rhieni i ystyried diogelwch eu plant cyn gwario’u harian.
Mae’n gyfreithlon prynu sgwter trydan preifat. Ond dim ond ar dir preifat, gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, y mae hawl ei reidio. Mae’n drosedd ei reidio ar ffyrdd cyhoeddus, ar balmentydd, mewn parciau cyhoeddus neu ar lwybrau beicio cyhoeddus.
Gall pobl 14 oed a hŷn reidio beic trydan sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid bod modd gyrru’r beic â’r pedalau. Mae pŵer parhaus y modur wedi’i gyfyngu i 250 wat, a rhaid i’r modur roi’r gorau i helpu’r beiciwr pan fydd y beic yn mynd yn gyflymach na 15.5 milltir yr awr.
“Mae sgwteri trydan a beiciau trydan yn dod yn fwy poblogaidd yn gyflym, ond yn anffodus mae llawer o bobl ddim yn gwybod beth yw’r rheolau ar eu reidio,” meddai’r Rhingyll Grace.
“Rydyn ni’n deall efallai fod eich plentyn yn awyddus iawn i gael un i Nadolig er mwyn teimlo’n rhan o’r criw.
“Ond cyn mynd allan i brynu un, rydyn ni’n gofyn i chi feddwl am beth mae’r gyfraith yn ei ganiatáu ac am ddiogelwch eich plentyn.”
Ychwanegodd y Rhingyll Grace fod llawer o rieni wedi cefnogi’r heddlu ar ôl i swyddogion egluro pam roedden nhw wedi meddiannu sgwteri trydan eu plant.
Llun: Sgwteri wedi eu meddiannu yn Llanelli