Prif Weithredwr Betsi Cadwaladr yn tynnu'n ôl o'i swydd newydd yn Lloegr
Ni fydd Prif Weithredwr Betsi Cadwaladr bellach yn ymuno ag ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr fel ei phrif weithredwr, yn dilyn adroddiad damniol ar y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru.
Yn dilyn adolygiad hynod feirniadol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria (LSCFT) wedi ceisio cyngor pellach ynghylch penodi Carol Shillabeer i swydd Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth.
Cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yr wythnos hon, dywedodd yr Ymddiriedolaeth yn Lloegr nad oedd yn ymwybodol o'r canfyddiadau.
Dywedodd Betsi Cadwaladr nos Iau y bydd Ms Shillabeer yn dal i adael ei swydd fel prif weithredwr y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd LSCFT: "Cynhaliwyd yr holl wiriadau diwydrwydd dyladwy, profion addasrwydd a phriodoldeb, a'r holl chwiliadau a phrosesau perthnasol ar gyfer penodiad ar y lefel hon, a chawsant eu clirio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau.
"Cafwyd hefyd dystebau a geirdaon fel y byddech yn eu disgwyl ar gyfer swydd uwch.
"Daeth y penderfyniad i benodi gan banel o gyfwelwyr a oedd yn hyderus ac yn unfrydol yn eu penderfyniad ar sail y wybodaeth oedd ganddynt ar y pryd.
"Nid oeddent yn ymwybodol o ganfyddiadau'r adolygiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pan wnaethant eu penderfyniad."
Dywedodd David Fillingham, cadeirydd LSCFT: "Ni ellir anwybyddu'r wybodaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg na difrifoldeb canfyddiadau'r adroddiad.
"O ganlyniad, rydym wedi cymryd amser ers cyhoeddi'r adroddiad i ystyried ein safbwynt yn ofalus a'i drafod â Carol.
"Gallaf gadarnhau bod Ms Shillabeer wedi gwneud y penderfyniad personol i dynnu'n ôl o'r swydd ac na fydd bellach yn ymuno â LSCFT fel Prif Weithredwr.
"Mae Carol yn teimlo mai dyma sydd orau er budd ein cleifion, ein cymunedau a'n cydweithwyr yn LSCFT.
"Rydym yn cytuno â phenderfyniad Carol ac yn dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd: "Bydd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth nawr yn ystyried y camau nesaf ar gyfer penodi ein Prif Weithredwr newydd.
"Yn y cyfamser, mae'r Ymddiriedolaeth yn parhau i weithredu o dan arweinyddiaeth gref Dr Gareth Thomas, y Prif Weithredwr dros dro."
Beth oedd canfyddiadau'r adroddiad?
Mae "arweinyddiaeth ansefydlog" a "diffyg strategaeth" yn golygu nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu fel un sefydliad cydlynol a threfnus, yn ôl canfyddiadau adolygiad newydd a gyhoeddwyd ddydd Mawrth.
Roedd adroddiadau hefyd am ddiwylliant o ofn ymysg rhai staff, gyda gweithwyr yn disgrifio 'meddylfryd gwarchae' ('siege mentality') er mwyn amddiffyn eu hunain.
Mae llywodraethiant y Bwrdd yn "anaeddfed ac aneffeithiol" hefyd, sy’n effeithio ar allu’r bwrdd iechyd i gyflawni ei gyfrifoldebau yn ddigonol.
Mae'r canfyddiadau wedi eu cyhoeddi yn 'Adolygiad Annibynnol o Ansawdd Arweinyddiaeth' y bwrdd iechyd, gafodd ei gomisiynu ym mis Mehefin gan y llywodraeth.
Mae diwylliant y sefydliad wedi ei effeithio o achos y diffyg arweinyddiaeth, gyda "lefelau diogelwch seicolegol yn isel" a diffyg ymgysylltiad, er bod awduron yr adroddiad yn cydnabod gwaith caled ac ymroddgar y staff.
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd y bwrdd iechyd, Dyfed Edwards, fod yr adolygiad yn "anodd ei ddarllen", bod y canfyddiadau'n ddifrifol a bod y bwrdd yn derbyn ei gyfrifoldeb i weithredu arnynt.
"Rydym yn cydnabod nad yw ein hymdrechion i fynd i'r afael â heriau hirsefydlog y bwrdd iechyd wedi bod yn ddigonol, ac mae angen i ni newid y ffordd rydym yn arwain, y ffordd rydym yn gwrando a'r ffordd rydym yn gweithredu pan fydd pobl yn codi pryderon," meddai.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod ar lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd bellach, ac ar y lefel fwyaf difrifol, lefel 5, ers mis Chwefror 2023.
Pan gafodd yr 'Adolygiad Annibynnol o Ansawdd Arweinyddiaeth' ei gomisiynu gan Lywodraeth newydd Cymru ym mis Mehefin eleni, y bwriad oedd i "sefydlogi gwasanaethau, i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd, ac i ysgogi gwelliannau parhaol i bobl ledled y Gogledd" yn ôl gweinidogion.
Cafodd yr adolygiad ei baratoi gan yr arbenigwyr ym maes iechyd Dr Kathy McLean OBE, Y Fonesig Alwen Williams, Yr Athro Em Wilkinson-Brice, Dr Pamela Johnston a Syr Stephen Powis.
Fel rhan o'r adolygiad, fe wnaeth y panel siarad yn uniongyrchol â dros 500 o unigolion, gyda dros 550 o ddogfennau ar gael iddynt eu hystyried.
Mae'r bwrdd iechyd yn gwasanaethu dros 700,000 o bobl ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru.
Dyma'r sefydliad iechyd integredig mwyaf yng Nghymru, sy'n cyflogi tua 20,000 o aelodau staff ac yn rheoli cyllideb flynyddol o tua £2.4 biliwn.