'Cyfrifoldeb mawr': Cyfres ddrama yn cyfleu hanes streic Friction Dynamics yng Nghaernarfon
Mae actorion y gyfres ddrama Y Streic Fawr wedi sôn am y cyfrifoldeb roedden nhw’n ei deimlo wrth adrodd hanes gweithwyr ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon a aeth ar streic 25 mlynedd yn ôl.
“Roedden ni jest eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n dweud y stori mewn ffordd deilwng,” meddai’r actor Iwan Garmon.
Yn 2001, fe aeth 86 o weithwyr cwmni Friction Dynamics ar streic. Roedd y cwmni’n cynhyrchu leininau brêc i geir.
Fe benderfynodd y gweithwyr fynd ar streic ar ôl i berchennog Americanaidd newydd y cwmni, Craig Smith, gyflwyno telerau ac amodau newydd mewn ymgais i gyfyngu ar hawliau aelodau’r undeb.
Ar ôl i Smith eu cloi allan o’r ffatri a’u diswyddo, fe arhosodd y gweithwyr ar y llinell biced am bron i dair blynedd. Roedd yr anghydfod yn un o’r rhai diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.
Bu farw Craig Smith yn gynharach y mis hwn yn 86 oed.
Bu Ffion Dafis, awdur y gyfres, yn gweithio’n agos gyda rhai o’r cyn-weithwyr i adrodd eu hanes mor gywir â phosibl.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C fis Ebrill, dywedodd un o arweinwyr y streic, John Davis, ei fod yn “bwysig” i bobl beidio â chymryd hawliau gweithwyr yn ganiataol.
Rhys ap Trefor sy’n chwarae rhan Mr Davis yn y gyfres. Wrth ymchwilio ar gyfer y rôl, cafodd gyfle i siarad â John a’i deulu am effaith yr anghydfod ar eu bywydau.
“Roedd o’n trafod pa mor anodd oedd o iddyn nhw fel teuluoedd oedd yn gorfod byw ar arian rhodd, a sut oedden nhw’n ymdopi ar hynny,” meddai Rhys.
“Ti’n teimlo cyfrifoldeb i fod yn driw i’w profiadau nhw.
“Pan oedd John yna ar y set a finnau’n gorfod bod yn fo ar ben llwyfan i siarad gyda gweddill y gweithwyr, a fynta yn yr ochr yn gwrando, roedd hynny’n brofiad nerfus iawn.
“Nath o wneud i ni’r actorion deimlo fel bod ni’n rhan o’r ymgyrch. Nath o ddod â realiti i’r ochr ffuglenol a gwneud iddo deimlo’n fyw, fel petasen ni’n byw ynddo fo.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2049747681233228093
Mae Rhodri Trefor yn chwarae rhan Tomi Jones, stiward siop a ddaeth yn ddiweddarach yn swyddog llawn amser i Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol yng ngogledd Cymru.
“Dwi’n meddwl bod hi’n stori mor berthnasol heddiw,” meddai.
“Y bobl gyffredin sy’n colli fwyaf pan mae cwmnïau mawr yn gwneud fel y mynnon nhw, a dwi’n meddwl bod hi’n bwysig atgoffa pobl o’r hanes yma.
“Wnaethon nhw aberthu wrth streicio, ac ennill, ond chawson nhw ddim llawer ar ei ddiwedd hi.”
'Yng nghanol y gymuned'
Mae Iwan Garmon yn chwarae rhan Stephen, gweithiwr ifanc yn y ffatri sy’n penderfynu peidio ag ymuno â’r streic. Mae’r cymeriad yn adlewyrchu’r gwahaniaeth barn oedd ymhlith y gweithwyr ar y pryd.
“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y streic cyn gwneud y ddrama, oedd yn siom ac yn sioc achos dwi’n cymryd diddordeb yn hanes Cymru,” meddai Iwan.
“Roedd edrych drwy ddeunydd archifol a chyfweliadau o’r cyfnod yn help mawr wrth wneud yr ymchwil, ond mwy na dim roedd o’n atgoffa rhywun o’r cyfrifoldeb oedd arnon ni i ddweud y stori mewn ffordd oedd yn driw i’r gwir, y digwyddiadau a’r bobl gafodd eu heffeithio.”
Cafodd y gyfres ei ffilmio’n bennaf yng Nghaernarfon a’r cyffiniau, gyda rhai o gyn-weithwyr y ffatri yn ymddangos ynddi fel actorion cynorthwyol.
“Roedden ni’n gweithio yng nghanol y gymuned ac o gwmpas pobl sy’n dal i gofio’r digwyddiadau a’u heffeithiau,” ychwanegodd Iwan.
Bydd pennod gyntaf Y Streic Fawr yn cael ei darlledu ar S4C am 9.00pm ar 6 Rhagfyr. Bydd y tair pennod ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r diwrnod hwnnw ymlaen.