Teyrngedau i'r artist Harry Holland sydd wedi marw'n 85 oed

HARRYHOLLAND
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r artist Harry Holland, sydd wedi marw'n 85 oed.
 
Fe ddaeth yn enwog am ei ddarluniau ffigurol yn ystod ei yrfa nodedig dros bum degawd o weithio.
 
Cafodd ei eni yn Glasgow ym 1941 a threuliodd ei blentyndod mewn gwahanol rannau o'r DU cyn ymgartrefu yn Llundain ym 1949. ​
 
Rhwng 1965 a 1969, astudiodd yn ysgol gelf St Martin’s yn Llundain.
 
Symudodd i Gaerdydd ym 1973 gan ddatblygu i fod yn artist uchel ei barch o fewn y maes yng Nghymru a thu hwnt.
 
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Galeri Celf yng Nghaerdydd fod Harry Holland yn cael ei ystyried fel un o artistiaid ffigurol gorau Prydain, ac "yn adnabyddus am ei realaeth fanwl a’i weithiau ffigurol sy’n cyfleu naws a theimlad."
 
"Gan ei fod yn enwog am ei feistrolaeth ar olau, cyfansoddiad a thechneg glasurol, mae ei baentiadau wedi cael eu hedmygu yn y DU ac yn rhyngwladol am eu hansawdd bythol a’u ceinder tawel.
 
"Mae’n gadael etifeddiaeth artistig a fydd yn parhau i ysbrydoli, a bydd ei waith yn parhau i fod yn dyst i’w ymroddiad, ei sgil a’i weledigaeth.
 
"Y tu hwnt i’w gyflawniadau artistig, roedd Harry yn hynod hael ac yn meddu ar synnwyr digrifwch miniog; byddwn bob amser yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a’r cyfeillgarwch a gynigiodd. "
 
Ychwanegodd y galeri fod Harry Holland yn "artist â gallu rhyfeddol, a dyn o garedigrwydd aruthrol.
 
"Roedd ei arsylwadau yn ein galluogi i edrych ar bethau mewn ffordd unigryw, a bydd ei baentiadau yn parhau i fodoli am genedlaethau."
 
Mewn teyrnged arall iddo, dywedodd Oriel Ffin y Parc yn Llandudno fod Harry Holland wedi creu "peintiadau bywyd llonydd hynod ddiddorol, gweithiau pensaernïol llawn awyrgylch, ac wrth gwrs, portreadau hardd - a oedd yn aml yn peri anesmwythder."
 
"Roedd ei beintiadau bob amser wedi’u creu gyda medrusrwydd eithriadol, ond roeddent yn fwy o lawer na dim ond darluniadau realistig o’r bobl a bortreadwyd. 
 
"Roedd ei waith, er ei fod bob amser yn gain ac wedi’i feddwl yn ofalus, hefyd yn apelio at yr emosiynau ac yn ysgogi’r meddwl; yn llawn drama a thensiwn. 
 
"Roedd manylion bychain yn rhoi bywyd i’w beintiadau, gan ddatgelu cymeriad ac archwilio’r cymhlethdodau a’r amwyseddau sy’n rhan o berthnasoedd personol.
 
"Daethom i’w adnabod ychydig dros y blynyddoedd. Roedd bob amser yn llawn ffraethineb. Roedd yn hael gyda’i amser a’i fewnwelediadau... Cafodd ei waith gynulleidfa eang. Dylanwadodd ar lawer o artistiaid iau. 
 
"Roedd ei gyfuniad o sgil a mewnwelediad yn rhywbeth prin ac hynod gyffrous. Roeddem yn falch iawn o gael arddangos ei waith yn Ffin y Parc. Rydym yn trysori enghreifftiau o’i waith, o’i yrfa hir, yn ein casgliad ein hunain. Roedd yn ffigwr a barchwyd yn fawr ac a garwyd yn fawr, a bydd colled fawr ar ei ôl."
 
Llun: HarryHolland.com

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.