Reform yn dychwelyd i'r Siambr ar ôl boicot
Reform yn dychwelyd i'r Siambr ar ôl boicot
Mae plaid Reform Cymru wedi dychwelyd i'r Siambr ym Mae Caerdydd, ar ôl boicot sydd wedi para bron bythefnos.
Cyn dychwelyd yno, cyhoeddodd eu harweinydd Helen Jenner y byddan nhw'n cyflwyno cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies.
Roedd y blaid wedi cadw draw o'r Siambr, ar ôl i un o aelodau'r blaid gael ei wahardd rhag siarad ar ôl iddo honni bod pobl wyn o Brydain yn cael eu disodli.
Cafodd Joe Martin, AS Reform UK, ei wahardd ar 10 Tachwedd ar ôl i'r Llywydd, Huw Irranca-Davies ddisgrifio ei sylwadau fel rhai “gwahaniaethol” a “sarhaus”.
Yn ei datganiad brynhawn Mawrth, dywedodd Helen Jenner: "Nid oeddem erioed eisiau boicotio digwyddiadau'r Senedd, ond mae rhyddid i siarad yn rhy bwysig i ni, ac ni fedrwn ildio.
"Wedi trafodaethau â'r Llywydd, roeddem yn credu ein bod yn agosáu at ddatrysiad call, ac y byddai ein cydweithiwr Joe Martin yn medru dychwelyd i'r Siambr heb ymddiheuro am ei araith yn y Senedd.
"Mae hi wedi dod yn glir y bore ma nad yw'r Llywydd wedi bod yn trafod yn yr ysbryd gorau, a'i fod wedi newid ei feddwl ar yr unfed awr ar ddeg.
"Mae e wedi cyfaddef fod ei benderfyniadau ar y mater hwn wedi eu dylanwadu gan deimladau oddi mewn i sefydliadau allanol.
"Mae angen iddo felly egluro i bobl Cymru pa sefydliadau ydyn nhw a be mae hynny'n ei olygu i ddemocratiaeth Cymru.
"Nid oes gennym ddewis ond mynd â'r mater ymhellach.
"Byddwn nawr yn cyflwyno cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywydd."
Wrth ddychwelyd i'r Siambr brynhawn Mawrth, dywedodd Helen Jenner: "Ydych chi wedi ein colli ni? Mae hi wedi bod ychydig yn ddiflas hebddom yma."
Mae Swyddfa'r Llywydd wedi cael cais i ymateb gan Newyddion S4C.