Agor 'helipad dwbl' yn Ysbyty Gwynedd - y cyntaf o'i fath mewn ysbyty yn y DU

Helipad YG

Mae’r gwaith o adeiladu helipad dwbl newydd gwerth £2.3 miliwn yn Ysbyty Gwynedd bellach wedi’i gwblhau.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae'r datblygiad yn nodi "carreg filltir sylweddol mewn datblygiad pwysig" fydd yn gwella gofal brys i gleifion ledled Gogledd Cymru.

Mae’r helipad dwbl yn uwchraddio helipad blaenorol yr ysbyty, a adeiladwyd ym 1997. 

Bydd y cyfleuster newydd yn cefnogi gwaith hanfodol yr ambiwlansys awyr a’r hofrenyddion chwilio ac achub.

Dywedodd Dr Pete Williams, Arweinydd Clinigol yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn gweld nifer cynyddol o gleifion yn cyrraedd, neu’n cael eu trosglwyddo, mewn hofrenyddion, ac mae achlysuron lle mae angen i fwy nag un hofrennydd gael mynediad at yr ysbyty ar yr un pryd. 

"Er bod sefyllfaoedd o'r fath yn gymharol anghyffredin, gallant arwain at oedi ar adegau pan fo pob munud yn cyfrif.

“Bydd cael dau helipad gwbl weithredol yn dileu'r risg y bydd rhaid i un hofrennydd aros i un arall adael, gan wella effeithlonrwydd a gan ddarparu gwydnwch yn ystod cyfnodau o alw uchel neu ddigwyddiadau mawr."

Ychwanegodd: “Yn y pen draw, nod y datblygiad hwn yw gwella gofal cleifion a sicrhau y gall pobl gael mynediad at y driniaeth gywir mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.

“Er na fydd y rhan fwyaf o bobl angen defnyddio’r cyfleusterau hyn, maent yn darparu rhwyd ​​ddiogelwch hanfodol i'r rhai sy'n wynebu'r argyfyngau meddygol mwyaf difrifol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig a fydd yn gwella gofal brys ledled Gogledd Cymru am flynyddoedd lawer i ddod.”

'Carreg filltir bwysig'

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae cwblhau’r helipad dwbl newydd yn garreg filltir bwysig i’r Bwrdd Iechyd ac yn gam mawr ymlaen wrth wella gofal brys i bobl ledled Gogledd Cymru.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i elusen HELP Appeal a Llywodraeth Cymru. Heb eu cymorth, ni fyddai'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl.”

Dywedodd y Dirprwy Brif Wyliwr y Glannau John Craig: "Rydym yn croesawu agor y safle glanio hofrennydd newydd yn Ysbyty Gwynedd. Mae'r safle newydd hwn yn gwella mynediad i hofrenyddion chwilio ac achub ac yn tynnu sylw at y gwaith agos rhwng sefydliadau gwasanaethau brys ar gyfer cymunedau ledled Gogledd Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.