Craig Smith, cyn-berchennog ffatri Friction Dynamics, wedi marw'n 86 oed
Mae'r Americanwr Craig Smith, cyn-berchennog ffatri Friction Dynamics ger Caernarfon, wedi marw'n 86 oed.
Roedd Mr Smith yn berchennog ar y cwmni yn ystod streic ddiwydiannol hir gan aelodau o Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol ar hen safle Ferodo rhwng mis Ebrill 2001 a mis Rhagfyr 2003.
Fe wnaeth dros 80 o aelodau'r undeb fynd ar streic dros doriadau mewn cyflogau, dirwyiad mewn amodau gwaith a newidiadau i'w patrymau shifft.
Roedd y streic, oedd wedi para am dros 1000 o ddiwrnodiau, ymysg un o'r rhai hiraf yn hanes diwydiannol Prydain.
Er i 86 o weithwyr ennill achos am ddiswyddo anghyfreithlon mewn tribiwnlys cyflogaeth yn 2003, aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gan adael y gweithwyr yn waglaw.
Cafodd Craig Richards Smith ei eni ar 2 Mehefin 1940 yn Santa Monica, Califfornia, cyn i'r teulu ymgartrefu yn Springville, Utah.
Roedd yn gerddor a chwaraewr tenis dawnus pan yn blentyn.
Fe briododd Diann Smith yn 1960 ac fe gafodd y ddau saith o blant.
Ar ôl derbyn gradd uwch mewn astudiaethau busnes ym Mhrifysgol Birmingham Young, Utah, aeth Mr Smith i fyd busnes.
Daeth yn brifweithredwr ar gwmni Raytech, cyn prynnu safle Ferodo ar gyrion Caernarfon yn 1997.
Yn ôl teyrnged swyddogol yn cyhoeddi ei farwolaeth, "wrth arwain ei gwmnïau ei hun, daeth â ffocws strategol prin i'w waith, ynghyd ag ysgogiad di-baid i weld ei weledigaethau'n dod yn fyw".
"Yn syml, nid oedd Craig yn gwybod sut i wneud pethau heb roi ei holl galon a'i egni iddynt," meddai'r deyrnged.
"Eiriolodd dros y rhai anghofiedig, y rhai ar yr ymylon, y rhai a esgeuluswyd, y rhai a anwybyddwyd, a'r rhai blinedig."
Yn dilyn yr anghydfod hir a chwerw yng Nghaernarfon, symudodd Mr Smith i redeg cwmni yn yr un maes yn Sir y Fflint, tra'n parhau i redeg ei fusnes yn yr Unol Daleithiau.
Lluniau: Llun teulu / Eric Jones, Wikimedia
Fe fydd cyfres ddrama Y Streic Fawr ar S4C yn adrodd hanes yr anghydfod yn Friction Dynamics, gyda'r bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar 6 Rhagfyr.