Colli lluniau S4C wedi digwyddiad yn ymwneud â larwm tân nos Sadwrn
25/09/2021
Pencadlys S4C yng nghanolfan yr Egin, Caerfyrddin.
Fe gollwyd lluniau sianel S4C ar lwyfan Freeview am ran fwya’r nos ar nos Sadwrn, a hynny yn sgil larwm tân mewn canolfan dosbarthu lluniau teledu yn Llundain.
Nid oedd darllediadau S4C ar Sky, Fresat, Virgin Media, S4C Clic na BBC iPlayer wedi ei heffeithio gan y digwyddiad.
Ymysg y sianeli eraill gafod eu heffeithio roedd; BBC, ITV, C4, C5, Paramount a E Music
Dywedodd llefarydd ar ran y sianel: “Mae S4C yn ymddiheuro i bawb fethodd weld eu hoff raglenni nos Sadwrn.”