Carchar i ŵr o'r Canolbarth am ladd tad i 12 wedi ffrae mewn bwyty cebab

Martin Slezak, y Trallwng

Mae dyn o'r Trallwng wedi cael ei garcharu am ddeng mlynedd am bwnio a chicio dyn arall i farwolaeth yn dilyn ffrae mewn tŷ cebabau.

Cafwyd Martin Slezak, sydd yn 23, yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad Young John Mongan, oedd yn 49 oed.

Wrth ddedfrydu Slezak, sy'n dod o'r dref ym Mhowys, dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon bod y rheithgor wedi dod i'r casgliad ei fod o wedi "ei cholli hi".

Roedd y ddau ddyn wedi bod yn yfed alcohol cyn y digwyddiad ym mis Mehefin.

Clywodd y llys bod Mr Mongan, oedd yn dod o Walsall ger Birmingham ac yn dad i 12 o blant, yn yr ardal er mwyn dathlu dyweddiad un o'i feibion gyda rhywun lleol.

Roedd Slezak wedi gwadu ei fod yn bwriadu ei ladd a dywedodd ei gyfreithiwr wrth y llys ei fod yn edifarhau.

Ond clywodd y llys bod marwolaeth Mr Mongan rhwygo "calon teulu cyfan," gyda'i weddw, Margaret, yn dweud ei fod yn "ŵr arbennig."

"Mae fy mywyd wedi ei chwalu'n llwyr gan yr hyn ddigwyddodd," meddai mewn datganiad wrth y llys.

Image
Young Mongan
Roedd Young John Mongan yn dad i 12 ac yn daid (Llun teulu)

Ffrae am golli sôs

Wrth gloi'r achos ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Geraint Walters bod rhywfaint o drais wedi bod yn y tŷ cebab cyn i'r ffrwgwd symud i tu allan i'r stryd.

Dywedodd bod sôs wedi tasgu ar ffrind i Slezak yn y bwyty têc-awê, gan nodi bod "rhywbeth mor ddibwys â sôs" wedi arwain at yr hyn ddigwyddodd.

Roedd Mr Mongan, oedd yn feddw, wedi ceisio symud i ffwrdd ond cafodd ei ddilyn gan Slezak "gyda rhywfaint o bwrpas" cyn i'r diffynnydd ei daro i'r llawr a'i fwrw'n anymwybodol. Fe wnaeth Slezak ei fwrw bedair neu bum gwaith eto, yn ogystal â'i gicio yn ei ben.

Fe ddywedodd Michael Hayton KC, oedd yn amddiffyn Slezak, fod ei gleient yn "ddyn da" wnaeth "golli rheolaeth o'i hun mewn amgylchiadau penodol".

Ond dywedodd y Barner Walters: "Mae'r llys yn cydymdeimlo â theulu Mr Mongan, doedd ddim yn haeddu gweld aelod hoff a phwysig o'r teulu yn marw mewn amgylchiadau mor ddisynnwyr.

"Ond dyna sy'n digwydd weithiau pan fo trais yn codi o achos diod."

'Ymosodiad parhaus a threisgar'

Wrth ymateb, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Dros Dro Rhys Jones o Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd hwn yn ymosodiad parhaus a threisgar gan Martin Slezak, a arweiniodd at farwolaeth Young John Mongan.

“Drwy barhau i ymosod ar Mr Mongan ag yntau’n gorwedd yn anymwybodol, dangosodd Slezak fwriad syfrdanol i achosi niwed difrifol i rywun nad oedd yn gallu amddiffyn ei hun.

"Drwy gydol ein hymchwiliad, y mae wedi gwadu’r bwriad hwn, gan arddangos diffyg edifeirwch llwyr am ei weithredoedd a’r effaith ar wraig a phlant Mr Mongan.

"“Dylai 27 Mehefin fod wedi bod yn noson o ddathlu i deulu Mr Mongan, gan nodi dyweddïad rhwng ei fab a’i ddyweddi newydd. 

"Fodd bynnag, oherwydd pwl o gynddaredd Martin Slezak, maen nhw nawr yn galaru ac yn gorfod dod dros dystio i farwolaeth anwylyn yn y ffordd fwyaf drawmatig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.