Yr ymgyrchydd Danny Tommo wedi’i garcharu ar ôl rhwygo dingi ymfudwyr â chyllell
Mae'r ymgyrchydd gwrth-mewnfudo Daniel Thomas wedi cael ei garcharu ar ôl rhwygo dingi ymfudwyr â chyllell a darlledu’r digwyddiad yn fyw ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cafodd Thomas, sy’n 37 oed ac yn cael ei adnabod fel Danny Tommo, ddedfryd o 15 mis o garchar am ddifrod troseddol yn Llys y Goron Portsmouth ddydd Gwener. Fe ymddangosodd drwy gyswllt fideo o Garchar Winchester.
Thomas yw sylfaenydd Patriot Platform, grŵp sy’n gwrthwynebu mudo. Ar 22 Medi, fe aeth allan mewn cwch i'r Sianel, neu Môr Udd, lle gwelodd griwiau’r RNLI, Llu’r Ffiniau a Gwylwyr y Glannau Ffrainc yn helpu ymfudwyr mewn dingi.
Pan oedd y dingi’n wag ac yn mynd gyda’r llif, gofynnodd Thomas i’r sawl oedd wrth y llyw droi ei gwch tuag ato. Yna fe gydiodd mewn cyllell. Roedd criwiau achub hefyd yn nesáu at y dingi, ac fe gamodd dyn o Ffrainc ar ei fwrdd o gwch achub.
Ar ôl rhwygo’r dingi â chyllell, roedd modd clywed Thomas yn dweud ar y fideo: “Dyma beth sydd angen digwydd,” a “Dyma Loegr, nid Ffrainc yw hi bellach.”
Roedd Llys y Goron Portsmouth wedi clywed o’r blaen fod y digwyddiad wedi cael ei ddarlledu’n fyw i “gynulleidfa fawr” ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol Thomas.
Roedd Thomas wedi pledio’n ddieuog i’r drosedd i ddechrau, ond fe newidiodd ei ble mewn gwrandawiad yn gynharach y mis hwn.
Roedd yr ymgyrchydd yn un o arweinwyr protestiadau gwrth-mewnfudo yn Portsmouth a Dover ym mis Medi, a welodd nifer o ddynion yn gwisgo masgiau a dillad du yn ymgynnull.
Fe wnaeth Thomas wadu cyhuddiad arall o fethu â rhoi cod PIN ei ffôn i’r heddlu o dan Adran 53 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000. Gorchmynnodd y llys fod y cyhuddiad hwnnw’n aros ar ffeil.