Carcharu dynes am dros flwyddyn am boeri i geg swyddog heddlu

Kimberely Evans

Mae dynes 31 oed wedi cael ei charcharu am dros flwyddyn ar ôl iddi boeri i geg a llygaid swyddog heddlu.

Roedd Kimberely Ann Evans wedi cyfaddef i ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys wrth gael ei harestio ym mis Awst 2025.

Cafodd ei charcharu am 58 wythnos.

Ymddangosodd Evans ar gyfer dedfryd yn Llys y Goron yr Wyddgrug yr wythnos hon.

Dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens: “Mae swyddogion heddlu yn dod i’r gwaith bob dydd er mwyn cadw’r gymuned yn ddiogel. Maen nhw’n haeddu cyflawni eu dyletswyddau heb ofni ymosodiad. 

“Mae poeri i wyneb swyddog yn ffiaidd ac yn ffordd gwbl annerbyniol o ymddwyn," meddai.

“Mi wnawn ni barhau i gymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy’n bygwth diogelwch gweithwyr y gwasanaethau brys neu’r gymuned ehangach.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.