Newyddion S4C

Tro-pedol cwmni Aldi wedi cwyn gan gwmni o Wynedd

25/09/2021
TriClimb

Mae busnes o Wynedd yn dweud eu bod “mewn sioc” ar ôl gweld cynnyrch newydd oedd ar werth gan un o archfarchnadoedd mwyaf Prydain.

Mae cwmni TriClimb o Borthmadog yn honni i archfarchnad Aldi gopïo eu cynnyrch, gan gymryd eu dyluniad ac enw’r cynnyrch. 

Mae Aldi bellach yn dweud eu bod wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen i werthu'r cynnyrch.

Mae cwmni TriClimb yn falch bod Aldi wedi gwneud tro-pedol yn dilyn eu cwyn.

“Hoffem ddiolch i Aldi am ddelio â’r mater o ddifrif a chydnabod y camgymeriad. Hoffem hefyd ddiolch i bawb am yr holl negeseuon a chynigion o gefnogaeth. Rydyn ni'n rhyddhad mawr.”

Dywedodd Saran Hickey, Rheolwr Cyfanwerthol Busnes Triclimb Ltd wrth Newyddion S4C bod y cwmni “mewn sioc”.

“Be nath ddychryn fi mwya oedd bod y dyluniad ei hun union run peth a be ‘da ni’n gwerthu yn Triclimb.

“Ac i fynd cam yn bellach, ma nhw wedi cymryd enw ni, a odde ni’n , argol ma hyn yn erbyn y gyfraith, ma nhw wedi rhoi trademark enfrigement. Odda ni jysd mewn gymaint o sioc.”

Image
TriClimb 2

Dim ond pedwar o staff sydd gan gwmni Triclimb sy’n gwerthu tegannau ac offer dringo allan o bren i blant.

Ychwanegodd Saran: “Pan ma cwmniau yn fach, yn y cychwyn, mae o’n galed iawn, a ma pethau fel’ma, ma’n ddigon i ddinistrio cwmni rili.

“Mae o’n jysd cymryd rwbath creadigol mae unigolion, y cwmni yma wedi creu o’u calonnau, a dinistrio fo rili.”

Pan ofynodd Newyddion S4C am ymateb gan Aldi, fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Yn Aldi rydym yn anelu at ddarparu cynhyrchion o ansawdd tebyg i frandiau blaenllaw i'n cwsmeriaid, ond am ffracsiwn o'r pris.

“Ar yr achlysur hwn, rydym wedi penderfynu na fydd y cynnyrch hwn yn cael ei werthu fel roedd wedi’i gynllunio ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae hyn wedi'i achosi.

"Rydym bob amser yn gwrando ar adborth ar a byddem yn hapus i  gwrdd â Triclimb i drafod eu pryderon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.