Caerfyrddin: Dedfrydu dyn am storio gormod o deiars ar safle ailgylchu

Teiars Caerfyrddin

Mae cyfarwyddwr cwmni wedi pledio’n euog i ddwy drosedd gafodd eu dwyn yn ei erbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gysylltiedig â gweithredu safle ailgylchu teiars ger Caerfyrddin.

Cafodd Mr Glyndwr Phillips, cyfarwyddwr GP Tyre Recycling Limited, ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis, gan gynnwys 80 awr o waith di-dâl, ar ôl cyfaddef iddo gyflawni’r troseddau.

Roedd y troseddau’n ymwneud â derbyn, storio a thrin nifer uwch o deiars gwastraff na’r hyn a nodir yn amodau’r esemptiad. 

Cafodd niferoedd gormodol o wastraff teiars eu cadw ar y safle mewn modd anniogel gan gyflwyno risg tân sylweddol.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn datganiad ar Facebook fod “storio a thrin nifer uwch o deiars gwastraff na'r hyn a nodir yn amodau'r esemptiad, ac mewn modd anniogel, yn cyflwyno risg tân sylweddol i'r amgylchedd a chymunedau.”

100 tunnell o wastraff

Dechreuodd ymchwiliad CNC yn 2022 yn dilyn adroddiadau fod gormod o deiars yn cael eu storio ar y safle. 

Er gwaethaf cynghorion, canllawiau a rhybuddion dro ar ôl tro gan CNC dros gyfnod o sawl blwyddyn, darganfyddodd archwiliadau fod niferoedd y teiars gwastraff yn parhau i gynyddu.

Erbyn mis Chwefror 2024, amcangyfrifodd CNC fod mwy na 100 tunnell o wastraff teiars yn cael ei storio ar y safle, a oedd yn llawer mwy na therfynau’r esemptiad, ac yn golygu bod y cyfleuster gwastraff yn gweithredu’n anghyfreithlon heb y drwydded amgylcheddol a oedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Roedd teiars a darnau o deiars yn cael eu storio heb y rhwystrau tân angenrheidiol, gan greu risg tân sylweddol a chodi pryderon ynghylch effeithiau posibl ar yr amgylchedd a chymunedau cyfagos.

Cafodd Mr Phillips ei atgoffa gan CNC ar sawl achlysur o amodau'r esemptiad ac, os byddai lefelau’r gwastraff yn parhau i gynyddu, y byddai angen iddo wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Er gwaethaf hyn, aeth Mr Phillips tu hwnt i derfynau’r esemptiad, gan gyflwyno risg tân. 

Methodd Mr Phillips â chydymffurfio â sawl hysbysiad gorfodi, heb ddarparu unrhyw reswm credadwy dros ei ddiffyg cydymffurfio. 

Image
Teiars
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Dywedodd Ed Davies, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff, CNC: 

"Cafodd Mr Phillips ei hysbysu dro ar ôl tro am ei gyfrifoldebau cyfreithiol a'r risgiau a achosir gan storio gormod o deiars gwastraff ar y safle.

"Rhaid i fusnesau sy'n trin gwastraff nid yn unig ei reoli'n ddiogel, ond hefyd gynnal a darparu cofnodion cywir sy'n dangos o ble mae gwastraff wedi dod ac i ble mae wedi mynd."

Ychwanegodd:"Drwy fethu â chymryd y camau angenrheidiol, fe wnaeth beryglu'r amgylchedd a'r gymuned leol."

"Mae'r ddedfryd hon yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau bwriadol hyn ac yn dangos na fydd CNC yn petruso cyn cymryd camau gorfodi pan fo deddfau amgylcheddol yn cael eu hanwybyddu."

Y ddedfryd

Cafodd yr achos ei glywed yn Llys Ynadon Llanelli, ar 24 Medi. 

Derbyniodd y Barnwr Rhanbarth fod y troseddau yn rhai bwriadol.

Dyfarnodd y llys hefyd gostau llawn yr erlyniad o £11,035.50 i CNC, i’w talu ar gyfradd o £300 y mis, gyda’r taliad cyntaf yn ddyledus o fewn 28 diwrnod.

Daeth CNC â’r erlyniad yn dilyn ymchwiliad hir i weithgareddau ar y safle a methiannau dro ar ôl tro i gydymffurfio â gofynion amgylcheddol a hysbysiadau gorfodi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.