Galw am oedi datblygu canolfannau data yng Nghymru dros dro
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi galw am atal cymeradwyo cynlluniau canolfannau data newydd yng Nghymru dros dro.
Mae Derek Walker yn rhybuddio na ddylid gwneud penderfyniadau i gefnogi deallusrwydd artiffisial heb ystyried yn llawn yr effeithiau “amgylcheddol, cymdeithasol, diwyliannol ac economaidd hirdymor”.
Dywedodd bod angen rhoi stop ar gynlluniau nes bod canllawiau a mesurau diogelu cenedlaethol ar waith.
Byddai angen sicrhau bod penderfyniadau’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), meddai.
Daw galwad Derek Walker yng nghanol pryder cynyddol ymysg y cyhoedd am effaith datblygiadau canolfannau data ar adnoddau naturiol Cymru.
Wythnos yn ôl fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau ei bod wedi galw cais cynllunio am ganolfan ddata ddadleuol yn nwyrain Caerdydd i mewn, gan gymryd y cyfrifoldeb am benderfynu arno oddi ar gyngor y ddinas.
Mae protestio wedi bod yng Nghaernarfon hefyd yn ddiweddar am gynllun i adeiladu canolfan ddata enfawr ar lan y Fenai.
Mae gwrthwynebwyr y cynllun yn dadlau y byddai'r ganolfan yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd - ond mae'r datblygwyr yn dweud y byddai'r ganolfan yn cynnig swyddi o safon yn lleol.
Mae’r Comisiynydd wedi codi ei bryderon yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, meddai.
Mae wedi galw am fwy o eglurder a sicrwydd ynghylch sut y mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei chymhwyso wrth wneud penderfyniadau am seilwaith deallusrwydd artiffisial.
Cafodd y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei phasio yn 2015, sy’n galw am ymrwymiad i weithredu er budd y rhai sydd heb eu geni eto.
Fe ganfu arolwg barn newydd wedi’i gomisiynu gan Derek Walker, a’i gynnal gan Beaufort Research, fod 66% o bobl Cymru yn poeni am effaith canolfannau data deallusrwydd artiffisial ar adnoddau naturiol fel dŵr ac ynni.
Dywedodd 29% eu bod yn poeni’n fawr, tra dywedodd 37% eu bod yn poeni i ryw raddau.
Fe ymwelodd Derek Walker ag Ysgol Gyfun Caerllion ac Ysgol Gwent Is Coed yr wythnos hon.
Mewn sgwrs â’r Comisiynydd fe ddywedodd Elin, sy’n 14 oed o Ysgol Caerllion, ei bod yn poeni am effaith canolfannau data deallusrwydd artiffisial, a bod llawer o’i ffrindiau yn “teimlo’r un fath”:
“A fyddan nhw’n llygru ein dŵr? Faint o wres fyddan nhw’n ei gynhyrchu? A pha effaith fyddan nhw’n ei chael ar yr ecosystemau lle cânt eu hadeiladu?” meddai.
Ychwanegodd ei bod yn credu nad oes “angen” adeiladu cymaint o ganolfannau data.
Mewn sgwrs arall â’r Comisiynydd, fe ddywedodd Hannah sy’n 15 oed ac yn ddisgybl yn ygsol Gwent Is Coed ei bod yn credu dylai Cymru “roi’r gorau” i adeiladu canolfannau data, nes bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy o ymchwil:
“Er y gall deallusrwydd artiffisial fod yn ddefnyddiol i’n helpu i weithredu ar newid hinsawdd, fel rhagweld tanau gwyllt a’n helpu i baratoi ar gyfer tywydd peryglus, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli faint o effaith sydd ganddo ar ein hamgylchedd.
“Rwy’n poeni faint o ddŵr a thir y bydd canolfannau data deallusrwydd artiffisial yn eu defnyddio a sut y bydd hyn yn effeithio ar ansawdd bywyd pobol yn y dyfodol.
“Sut y bydd hyn yn effeithio ar ansawdd ein haer a’n hiechyd?” meddai.
Mewn datganiad dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Bydd deallusrwydd artiffisial yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol Cymru, a dylem groesawu cyfleoedd ar gyfer arloesi a buddsoddi cyfrifol.
“Ond allwn ni ddim fforddio gwneud penderfyniadau am ganolfannau data mawr newydd heb ddeall y canlyniadau hirdymor yn llawn a chynnwys cymunedau’n uniongyrchol.
“Dyna pam rwy’n galw am atal cymeradwyo canolfannau data newydd sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial yng Nghymru dros dro, nes bod canllawiau cenedlaethol clir ar waith."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb gan Newyddion S4C.